XI.
DYDDIAU TYWYLL Y DIWYGIWR.
Ni wyddys a barhaodd yr ohebiaeth rhwng y Diwygiwr a Mr. D. Delta Davies ar ol Mehefin, 1860. Ysgrifennodd Mr, Davies wrth anfon y llythyrau i mi iddo dderbyn oddi wrth Mr. Jones lawer mwy na'r wyth sydd ar gadw, ond iddo'u colli oherwydd diofalwch. Pa un bynnag ai llythyrau a dderbyniwyd cyn Mehefin, 1859, neu ar ôl Mehefin, 1860, oedd y rhai a gollwyd, prin y gallent fod yn gyfwerth â'r rhai sydd ar gael, oblegid ceir yn y rhai hynny ddarlun manwl a chywir of gyflwr y Diwygiwr yn ystod un o flynyddoedd pwysicaf ei fywyd.
Y mae'n amlwg oddiwrth ei lythyr cyntaf, a ysgrifennodd ym Mehefin, 1859, nad oedd Mr. Jones ar ddechrau'i genhadaeth yn Aberystwyth yn gwbl fel y bu; sonia am ei " drallodion am chwech mis," ac nid oedd fwy na chwe mis er pan aethai i Aberystwyth. Daethai iddo brudd-der mor drwm fel y bu bron a marw ugeiniau o weithiau." Aethai'n rhy nerfus a gwan i allu gweddio'n gyhoeddus na bugeilio'r praidd. Cloesid ei dafod a daethai llesgedd blin i'w feddwl,-" Y mae holl alluoedd fy meddwl yr un mor bŵl a thywyll." Dyma rai o arwyddion amhariad a ganfu'r sawl a gymdeithasai ag ef. Dengys yr wyth lythyr fod prudd-der trwm bron a llethu'r Diwygiwr, ac yn ei ddrygu gorff a meddwl, eithr ni cheir ynddynt braw o gynnydd y dirywiad; ni ddengys yr wythfed llythyr fod ei gyflwr yn waeth nag ydoedd pan ysgrifennodd y cyntaf, flwyddyn ynghynt. Gorchest ry anodd, efallai, hyd yn oed i feddylegwyr, ydyw esbonio'r dyn a ddatguddir yn y llythyrau. Ceir pruddglwyf du a gobaith golau yn cyd-drigo. Y mae'n "ddigalon, gwanllyd, anesmwyth, gofidus, nervous a phryderus," a hefyd "yn gwybod gystal ag y gwn i mai dyn wyf fi fod gwawr y Milfiwyddiant i dori ar y byd mor fuan ac y tyr y Diwygiad sydd