Tudalen:Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD.

Os anturia awdwr anenwog gyhoeddi llyfr Cymraeg, a'i bris yn bedwar swllt, nid annhebyg y bydd iddo gael ei hun ryw ddiwrnod yn cynnal ei ben rhwng ei ddwy law, ac yn eistedd ar ystôl edifeirwch; yn enwedig os bydd y rhan fwyaf o gynnwysiad ei lyfr wedi ymddangos eisioes mewn misolyn, fel y mae yn dygwydd gyda Rhys Lewis. Yr ystyriaeth anhyfryd hon sydd yn rhoddi cyfrif am beth mor chwithig, yn ngolwg rhai, a "rhestr tanysgrifwyr" yn nglyn a gwaith o natur Hunangofiant Rhys Lewis. Nid oeddwn yn bwriadu cwblhau y gwaith, llawer llai ei gyhoeddi yn llyfr, os na chawn le i gredu fod galwad am dano. Yr wyf yn cymeryd y cyfleusdra hwn i ddiolch i fy nghydwladwyr am y gefnogaeth—annghydmarol, ymron, mewn llenyddiaeth Gymreig—a dderbyniais.

Gallwn ddyweyd rhywbeth am yr amgylchiadau anfanteisiol dan ba rai y cyfansoddwyd y llyfr, oni bai y byddwn felly yn ymddangos fel un yn ceisio pylu min beirniadaeth. Rhaid i'r hwn a gyhoeddo lyfr ddysgu bod yn ddyoddefgar erbyn y daw diwrnod y rhostio. Nid wyf finnau yn dysgwyl cael bod yn eithriad; yn hytrach dywedaf wrth y rhai sydd yn teimlo hyny ar eu calon, fel y dwedasai Wil Bryan, "fire away!" nis gellwch nodi mwy o ddiffygion yn y gwaith nag y mae yr awdwr ei hun yn ymwybodol o honynt. Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifenais, ond i'r dyn cyffredin. Os oes rhyw rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau ydyw hwnw, a'r ffaith nad ydyw yn ddyledus am ei ddefnyddiau i estroniaid. Os oes ynddo rywbeth a'i duedd heb fod i adeiladu yn gystal a difyru y darllenydd, ni phar hyny fwy o ofid i neb nag i'r

AWDWR.

Wyddgrug, Ebril 30, 1885.