Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymeriad yn y wlad, i ofyn iddo gymeryd Huw yn was. Dywedodd Mr. Owen ei fod ef wedi siarad gyda dyn arall, ac wedi addaw ei gyfarfod yn y Ffair Pen Tymhor, i geisio ei gyflogi; ac ychwanegodd—"Os byddaf yn gweled y dyn hwnw yn ateb fy nyben, ac yn rhesymol yn ei ofynion; a'i gymeriad yn dda, ni's gallaf ei droi ymaith ar ol siarad âg ef; ond os na fydd yn union wrth fy modd, mi a gyflogaf Huw. Gan hyny, gwell i chwi, Mr. Lloyd, ddweyd wrtho am fy nghyfarfod yn y ffair fawr."

PENNOD VI.

Gwagedd o wagedd: * * gwagedd yw'r cwbl.—SOLOMON.

FFAIR PEN TYMHOR a ddaeth, a chyfeiriodd Huw Huws ei gamrau tua Llan, am y tro cyntaf erioed ar adeg ffair fawr—wedi ymwisgo yn daclus, ond syml.

Yr oedd yr heolydd yn frithion gan fynychwyr ffeiriau, yn myned, fel yntau, i Lan; ond yr oedd yn amheus a oeddynt hwy oll yn myned gydag unrhyw neges bennodol, fel efe. Bu ef yno o'r blaen, dros ei hen feistr, mewn dwy ffair led fechan; ond nid oedd yn gweled nemawr neb, yn y rhai hyny, heblaw pobl a'u bryd ar fasnach o ryw fath; ond y tro hwn, sylwai ar niferoedd yn cyrchu yno na's gallai fod ganddynt un neges yn y byd; a chofiodd am geryddon Mr. Lloyd, yn un o'i bregethau, ar Ffair y Gwagedd, a'r temtasiynau a amgylchynant ieuenctyd di-amcan yn y cyfryw ffeiriau.

Yr oedd y ffair yn ddigon i syfrdanu un annghyfnefin â'r cyfryw olygfa, ac yn ddigon i ofidio calon pob un a chanddo barch at rinwedd a moesoldeb. Mewn un heol, yr oedd nifer o feirch yn cael eu rhedeg, er mwyn tynu sylw'r edrychwyr, a sylwodd Huw fod amryw o'r gyrwyr yn arfer llawer o greulondeb at yr anifeiliaid er mwyn cael ganddynt wneud pranciau, a dangos hoender, a rhedeg yn gyflym. Cofiodd glywed am ryw bendefig yn areithio yn y Senedd, ychydig amser cyn hyny, i geisio cael cyfraith lemach i gospi creulondeb at anifeiliaid; a thybiodd Huw, os oedd creulondeb at anifeiliaid yn bod, ag y dylid ei gospi, fod rhedeg meirch, a chesig, a merlynod, ar hyd heol faith, am lawer o oriau, gan eu chwipio a'u hysparduno yn gïaidd, yn haeddu cosp; ac eto, sylwodd ar rai o amaethwyr parchusaf y wlad, ac amryw o honynt yn broffeswyr crefydd, ac yn cael eu hystyried yn bobl dduwiol, yn syllu ar yr olygfa gyda dyddordeb—rhai o honynt yn syllu yn graff gyda llygaid beirn-