gael faint fyw fyd a fynoch o waith o hono fo, ond i chwi adael iddo wybod eich bod yn disgwyl llawer gyntho fo fel llanc o garictor crefyddol."
Wel, mi treiaf fi o. Ond, 'rhoswch chwi,—mi ddeudodd rhywun, gin gofio, 'i fod o wedi siarad hefo Mr. Owen, Plas Ucha'. Thal hi ddim byd i mi dreio fo heb gael cenad Mr. Owen."
"Purion. Ond, beth 'newch chwi? Mae llanciau yn gofyn cyfloga' dychrynllyd 'leni, a chwithau, fel y deudwch, yn penderfynu na ro'wch chwi ddim dros bedair punt."
"Na ro'f wir, os medraf fi beidio rywsut. Mae pedair punt y tymhor yn hen ddigon. Beth sy' arnyn' nhw eisio hefo 'chwaneg, ond cael arian i yfed cwrw? Gallan' gael digon o ddillad am bedair punt a dyna'r cwbwl ddyla' nhw ddymuno, gan'u bod nhw'n cael digon o fwyd cry."
"Ar y fan yma, mi leciwn I pe baech chwi yn medru perswadio'r cnafon i gredu hyny. Mae nhw'n myn'd yn lartsiach larstiach bob tymhor yrwan, a rhai o honyn' nhw'n credu 'u bod nhw cystal dynion a'u meistradoedd. Ond yr hen gwarfodydd newydd yma sy'n anesmwytho'r llanciau—Cwarfodydd Llenyddol, neu rywbeth tebyg i hyny, mae nhw'n eu galw. 'Dwn I ddim llawer am y y fath G'warfodydd, achos fum I ddim yn 'r un o honyn' nhw 'rioed; ond mi rois I gerydd llym i'r bechgyn am'u cynal nhw, yn y Seiat dd'weutha'. Ac os na chawn ni'r c'warfodydd yma i lawr, fydd dim posib' ymhél â'r bobol ifanc, achos mae nhw'n myn'd i feddwl mwy o honynt'u hunain, ac i ddymandio mwy o amser segur, i ddarllen, a chanu, a phrydyddu, a lolian."
"Ie, dyna hi 'n union, fel 'r oeddwn I yn teimlo fy hunan. 'Rydan ni bron wedi gorchfygu nhw acw, trwy gynghori'r bobol ifanc fod tuedd lygredig yn y fath g'warfodydd, a gwrthod y capel i'w cynal. Ac ni syn'is I 'rioed yn fy mywyd ddim mwy nag fod Mr.
, un o'n pregethwrs ni, wedi dwad acw i 'reithio a barnu i'w c'warfod nhw. 'Deis I ddim ar eu cyfyl, ond mi gefis gan y brodyr i gytuno i beidio gadael i'r gwr hwnw ddwad acw i bregethu byth ond hyny; ac yr oeddwn I'n ffond ofnatsan o hono fo bob amser o'r blaen. "Toes dim math yn y byd o reswm i bregethwrs gymysgu hefo pob math o bobol ifanc felly, a siarad ar bethau ysgafn yn y Capel, a g'neud i weision a m'rwynion fod yn ffond o ddarllen ryw bethau nad oedd yr hen grefyddwyr byth yn edrach arnyn' nhw. A darllen, darllen, a phrydyddu, a sgyfenu, a chanu, a thrin pawb a phob peth, oedd hi acw o hyd, cyn i ni, fel blaenoriaid, osod 'n gwynebau yn 'u herbyn nhw. A 'toes dim dadl nad y C'warfodydd Llenyddol yma ydi'r achos fod llancia' eisio