Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mi af i chwilio am dano'r foment yma," ebe'r amaethwr arall.

Na thybied y darllenydd ein bod wedi trethu dim ar ein dychymyg wrth ysgrifenu hynyna. Y mae yn llythyrenol wir; a'r unig ryddid a gymerwyd genym ni oedd cuddio'r personau rhag gwarthnodi gormod ar y pleidiau euog. Gwyddom, yn bersonol, am ddynion a ddalient swyddi uchel yn Eglwys Dduw, yn byw heddyw yn Sir Fon, wedi defnyddio y cynllun uchod i ddenu dynion i dderbyn cyflogau isel; a bu'n ddrwg genym, lawer gwaith glywed dynion yn beio CREFYDD o herwydd ymddygiad rhai fel hyn yn ei phroffesu. Nid yw y fath gymeriadau yn ystaenio dim ar Grefydd, nac yn lleihau dim, mewn gwirionedd, ar werth cymeriad crefyddol. Y mae modd camddefnyddio pob peth da; ac y mae llawer yn defnyddio Crefydd fel mantell i guddio eu gwir nodweddion eu hunain. Ond i Chwiliwr y Galon y maent yn gyfrifol am eu rhagrith; er eu bod yn gyfrifol i ninau, fel aelodau o gymdeithas, am eu dull o ymddwyn at ein cyd-greaduriaid, gan ychwanegu at y maglau y maent yn rhy barod i fyned iddynt, a gwrthwynebu y sefydliadau daionus ag sydd yn peri chwyldroad moesol ar Gymru yn y dyddiau hyn, am eu bod yn gwneyd "llanciau ffarmwrs," fel dynion eraill, i ddechreu meddwl, a theimlo, ac ystyried eu hunain yn rhyw bethau heblaw, ac uwch, nag anifeiliaid direswm.

Yr oedd yr ymddyddan a glywodd Huw Huws rhwng y ddau amaethwr yn archolli ei deimlad yn dost. Teimlodd awydd myned allan o'u clyw, rhag bod yn dyst dirgel o fasrwydd na freuddwydiodd ef erioed y gallai fodoli; ond yr oedd newydd-deb anfad y peth, iddo ef, yn gweithredu fel swyn-gyfaredd arno, fel nad allai symud o'r fan; a theimlai ei hun fel yn deffro o gwsg cas ac anesmwyth pan dawodd y ddau amaethwr, ac yntau yn eu gweled yn ysgwyd dwylaw, ac yna yn dywedyd, "Dydd da i chwi," wrth eu gilydd, gyda thôn hirlusgog, Phariseaidd, ac yn tynu' gwynebau hirion a phruddglwyfus, fel pe buasai pob un o'r ddau wedi cael ffit o'r cnoi.

Yna aeth Huw at y fan lle'r arferai gweision a morwynion "allan o le" sefyll i aros i rywun ddyfod i gynyg lle iddynt am y tymhor dyfodol. Yr oedd yr olygfa hon yn un hynod i Huw, ac yn ymddangos iddo yn un annymunol iawn. Gwelai res o ferched, o bob oedran, —genethod bychain, na ddylasent, o ran eu hoedran, gael eu danfon oddiwrth eu rhieni—merched ar fin dynesoldeb (womanhood), rhai o honynt gyda chyrff mor dirfion â merhelyg dyfrllyn," canmil rhy lednais i fod yn y fan hono yn wrth