ei ffunen, a chydag un ysgytiad cryf, tynodd ef ar ei wyneb ar y llawr, a daliodd ef yno am enyd. "A fyddi di'n llonydd, Sion?" gofynodd.
"Cei wel'd yn fuan!" atebodd Sion.
"Chodi di ddim oddiyma hyd nes y gofyni am bardwn!"
Ymwingodd Sion a'i holl nerth, ond yr oedd Huw yn dal i bwyso arno, a phawb o'r edrychwyr yn synu at nerth a glewder un mor ieuanc. Cafodd gic yn ei forddwyd, gan Sion Parri, nes y gwelwyd ei wyneb yn ymliwio, a thybiodd amryw y buasai yn cwympo. Gafaelodd yr hen wr hwnw yn ei fraich, a dywedodd, "gad iddo godi, a dos di o'r neilldu. Er mod I'n hen, gallaf drin hwn eto."
"Na," ebe Huw, "nid wyf yn foddlawni neb ymladd ar fy nghownt I. Daliaf ef ar y llawr cy'd ag y gallaf."
Yr oedd Sion yn cicio, yn gwingo, ac yn ceisio cnoi Huw â'i holl egni.
"Sion Parri!" ebe'r bachgen; "fedraf fi ddim dal ati'n llawer hwy, ac y mae'n rhaid i mi un ai gadael i ti fy mrifo fi, neu i mi wneud cam â thi, os cam hefyd. Wnei di fod yn llonydd bellach?"
Rheg a chic oedd yr unig atebiad a gafodd. Dododd Huw ei ben lin ar frest Sion, gan bwyso arno yn drwm. Tynodd ei ffunen (cadach) ei hun oddi am ei wddf, a dechreuodd rwymo dwylaw ei wrthwynebwr gyda hi, ond nis gallodd wneud hyny heb haner ei dagu yn gyntaf, yr hyn a wnaeth hefyd trwy wthio ei figyrnau i wddf Sion, yr hwn a wanychodd yn ddirfawr dan y driniaeth feddygol hono. Yna llwyddodd Huw i rwymo ei ddwylaw yn dýn, a gadawodd iddo gyfodi. Yr oedd Sion, erbyn hyn, mor gynddeiriog a theigr cythruddedig, ac yn ceisiod datod rhwymyn ei ddwylaw gydai ddanedd, fel y gallai gael ail ymdrech a Huw. Ond yr oedd pobl y tŷ, ar ol i'w braw cyntaf dawelu, wedi myned i chwilio am gwnstabl, a bod mor ffodus, yr hyn oedd yn rhyfedd, a chael hyd iddo mewn pryd. Daeth hwnw i'r lle, a chydag un tarawiad ar fraich Sion gyda'r ffon fér, drom, gwnaeth ef yn dawel fel oen; a chafodd lety, am y prydnawn a'r noson hono, yn yr Heinws. Dyna derfyn helyntion Huw Huws yn y ffair.
PENNOD VIII.
Balchder, ar fyrder a fydd
Yn nod o oes annedwydd.
—O GRONFA'R AWDWR.
Aeth dwy flynedd heibio—"fel chwedl"—yn llawn o amrywiaeth—cymysg o dda a drwg, achosion llawenychu a