Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wyddost ti beth, Twm, mae arnaf fi ofn na ddaw o ddim, heno. F'allal fod yr arian mawr yma wedi dychrynu ei grefydd o i gyd allan o hono, a'i fod o wedi myn'd ar 'i sbri."

"F'allai hyny, wir," ebe Twm Dafydd. "Ond beth os ydi o wedi cym'ryd ffordd Llansadwrn, ac i lawr y Traeth Coch, ffordd honno?

"Reit siŵr iti! mi fedar groesi'r traeth heno—mae hi'n ddistyll trai rwan. Beth wnawn ni, dywed?"

"Wel, mae gin I blán."

"Gad 'i glywed o."

"Dyma fo: Mi wyddost fod Huw'n cysgu yn y llofft uwchben y Ty Tatws, heb neb yn cysgu'n agos ato fo. Mae o'n siwr o gadw'r arian hefo fo heno; a thua haner nos, beth fyddai haws nag i ni'n dau fyn'd ato fo, gneud ysbryd, a'i ddychrynu o nes cael pob ffyrling? Ac os na fydd yr arian hefo fo yn y llofft, gallwn'i wneud o i ddeud ymh'le y mae nhw. Beth ddyliet ti?"

"Byth o'r fan yma!—mae o'n blan campus."

Cytunodd y ddau ar y cynllun; ac yna aethant ymaith. Cododd Huw Huws ei ben trwy y twll yn y goeden, i edrych a oedd y ddau gymydog wedi myned, a phan welodd fod pob man yn glir, dechasuodd yntau dynu ei gynlluniau. Ac yn mhen enyd, cychwynodd drachefn, gan dori ar draws y caeau, rhag ofn dyfod o hyd i'w ddau "gyfaill." Cyrhaeddodd y Plas Uchat. Neidiodd dros glawdd yr ardd, a llusgodd rywbeth trwm oddi yno, ac aeth ag ef i'r "Ty Tatws," yn llofft pa un yr oedd ef yn arfer cysgu.

Rhoddodd ei arian yn ngofal ei feistr, ac aeth i'w wely, a gofalodd am beidio barrio'r drws.

Wedi gorwedd am tua dwy awr, ac yn fuan ar ol i'r cloc daro haner nos, clywodd Huw y glicied yn cael ei chodi, a'r drws yn agor yn araf. Yna cerddediad ysgafn, araf, fel pe buasai rhywbeth, neu rywun, yn rhoi tri thro o gwmpas y llawr. Peidiodd y cerdded, a dyna lais dwfn, sobr, yn dywedyd—"Huw Huws!—Huw Huws!—Huw Huws! Yr wyt yn cymeryd arnat fod yn ddyn ifanc duwiol, ond yr wyt wedi gwerthu dy hun i'r cythraul! Y mae arian wedi dy ddamnio. Os na thafli di nhw o dy afael, cei fyn'd i uffern cyn y bore! A wyt ti'n clywed rhybudd o wlad yr ysprydion?"

Neidiodd Huw ar ei eistedd, gan agor ei enau a rhythu ei lygaid, i edrych gyn debyced ag y gallai i ddyn mewn braw ofnadwy; a gwelodd wrthddrych mawr yn sefyll wrth erchwyn y gwely—Sion Parri, gyda chap nos merch am ei wyneb, a dau dwll wedi eu tori yn nghoryn y cap, iddo