Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hen gerfwaith mewn coed yn cynrychioli y croeshoeliad. Bu y cerflun hwn ar goll am amser maith, ond ar ol hir ymchwiliad fe'i cafwyd yn gladdedig mewn hen ysbwrial yn y twll dan y grisiau. Y mae wedi ei gyfleu uwchben yr allor yn bresenol yn ei gyflwr adferedig, ac oddiwrth y llythyrenau sydd yn aros— "Ecce Homo, Maria, Johannea,"—gellid barnu fod y cerfiad wedi ei wneud tua'r bedwaredd ganrif ar ddeg neu y bymthegfed. Y mae yn y fynwent amryw brenau yw o agwedd tra hynafol, lle y clywir cryglais y gwynt o flaen ystormydd; ac y mae yr olwg arnynt yn dangos eu bod wedi blino yn ymladd brwydrau canrifoedd.

Wele restr o Berigloriaid y Bettws:-D. ap Ieun, 1537; H. ap Robert, 1566; E. Griffiths, 1589; T. Adkin, 1626; G. Hughes, 1660; D. Edwards, 1661; H. Owens, 1683; D. Wynne, 1684; S. Morgan, 1688; Edward Samuel, 1702; E. Jones, 1720; L. Jones, B.A., 1728; W. Jones, B.A., 1755; T. Owen, M.A., 1760; J. Lloyd, B. A., 1766; J. Hughes, 1794; J. Morgan, 1800; E. Edwards, 1822; W. Hnghes, 1851; W. Jones, 1877.

PENOD II.

ENWOGION EDEYRNION

GALL y parth hwn o Gymru ymffrostio iddo fod yn drigle cynifer o wŷr enwog mewn gwahanol gylchoedd. "Yn mhob gwlad y megir glew, ac felly magwyd amryw wŷr glewion ar lanau y Dwrdu neu y Dyfrdwy. Bu lluaws o hen deuluoedd clodwiw yn byw yn y palasau a'r tai mawr yn yr ardaloedd. Mae Carog, Rhagad, Rug, Ucheldre, Maesmor, Bryntangor, Hendreforfydd, Gwerclas, Hendwr, Cilan, Cefnbrychdwn, ac eraill, yn enwau tai y cyfarfyddir â hwy yn fynych yn hanesiaeth yr ail ganrif ar bymtheg. Bu teulu urddasol yr Huwsiaid oeddynt arglwyddi Cymer yn preswylio yn Ngwerclas, y rhai oeddynt nodedig am eu teyrngarwch i'r brenin, a'u dylanwad yn cael ei deimlo gan y