Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y Sesiwn gwyddys eisiau
Eich doeth fron a'ch DWY-IAITH frau."

Ac am y Salsbríaid, a'u syberwyd tuag at feirdd a cherddorion, y dywed S. Tudur, yn ei Awdl Briodas i John Salsbri o Rug, a Bachymbyd-

"SION Eryr y gwŷr i gyd—SION wrol,
SION eurwalch Bachymbyd—
SION fwyaf son i'w fywyd,
SION ben ar bawb sy'n y byd.


'Y gwŷr o raddau a gar roddion
Hap a roed iddynt y Prydyddion,
A gwŷr o ddwyradd o gerddorion,
A chroew iaith a Chrythorion—
NADOLIG, a SULGWYN, o delon'-BASG & MAI
Er maint a ddeuai, croesawai SION.'

"Pais-arfau y Salsbriaid yn gyffredin oedd-'Maes rhudd, Llew ar ei ysglyfnaid arianaidd, a choron euraidd, rhwng tair lloeren o'r trydydd lliw.' Dengys hyn eu Cymreigyddiad; herwydd bod arfau y Cymry yn fwy llewawg o lawer nag arfau y Saeson. Anfynych y gwelir Arfbais bedranawg Gymreig heb lew yn rhyw gwr iddi.

"Mr. Pennant a dybiai ddyfod y Salsbriaid i Lleweni (llys yr hen Farchweithian, un o bymtheg llwyth Gwynedd yn yr 8fed canrif) cyn amser Harri y trydydd: ond nid yw hyn debyg, canys yr oedd Dafydd, brawd 'Llywelyn y llyw olaf,' yn arglwydd Dinbych yn nheyrnasiad Edward y cyntaf; ac yn ei gwyn at Archesgob Caergaint y mae yn achwyn ar drais a gorthrech Saeson Caerlleon, ac eraill, am dori a chludo ymaith ei goedydd ef yn Lleweni, heb ei genad ef. Y mae hyn yn hanesiaeth awdurdodawl, ac felly nid tebyg i'r Salsbriaid feddianu Llys Marchweithian nes y dienyddiwyd Dafydd, arglwydd Dinbych, gan ei elynion cigyddaidd yn Amwythig, yn y fl. 1282. Ond pa bryd bynag y daethant i Leweni, ni buont bir cyn lledu eu hesgyll, a pherchenogi nifer o balasau a threftadaethau yn swyddau Dinbych, Fflint, a Meirion; canys ni a'u cawn yn Bachymbyd—Rug—Bachegraig—Yr Ystoc—Lleproc—Llanrhaiadr—Llywesog —Clocaenog—Llanfwrog—Maes Cadarn—Gwytherin—Dol-beledr—Llandyrnog.

"Ond 'golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith, megys eryr tua'r wybr.' Enwau a theuluoedd a ymddangosant yn fawr eu rhwysg, ac a ddiflanant. Felly o'r Salsbriaid llydain eu hesgyll, nid oes heddyw—'prin ddau, lle yr oedd gynau gant' -neu lai na dau, canys ar wibfeddwl ysgafn nis gwn ond am un tylwyth cerbydawg, boneddwiw, o'r enw, a hwnw nid yn