Tudalen:Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AT Y DARLLENYDD.
GYFAILL CAREDIG,
GYDA llonder mawr yr wyf yn cyflwynoi'th sylw y Cronici hwn o hen gofion,
er mwyn galw i'th gof "y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd," fel wedi
i ti ddarllen, a chymharu yr hyn a aeth heibio, á'r presenol, y tueddir di i
ddywedyd gyda y bardd Lladinsidd.-
Ei chyfrif r'wy'n rhagorfraint imi
Yn yr oes hon im gael fy ngeni.
Llinell amlwg yn nghymeriad plant Israel, ocdd eu bod hwy yn ysgrifenu
hanes ymddygiad Duw tua, atynt bwy, a'u bymddygiadau bwythau tuag ato Ef,
ac at eu gilydd, ac felly i fod yn gyfrwng addysg ini, fel y dilynom bwy yn yr
hyn sydd dda, ac y gochelom eu dilyn yn yr hyn sydd ddrwg: ac o'r tu
arall, llinell lawn mor amlwg yn nghymeriad ein henafiaid. oedd eu diofalwch i
ysgrifenu pethau o'r fath, er colled anrhaethol i ni, eu plant. Wel, diwygiwn
yn hyn, a bydded gan bob teulu, a gwlad, lyfr, yn cynwys y prif bethau a'u cyf-
arfu yn eu hoes a'u bamser, rhag ein bod yn debyg i anifeiliaid a ddifethir.
Sieryd rhai hynafiaethwyr am ein cenedl fel yn tarddu o waed byna'rddaear
ac am ein hiaith, fel cares i ieithoedd hyn y byd; ac er ein dyrchafu; pwynt-
iant fys at yr amser y cymerem yr ymosodot; er ein bod heddyw, tan ddylan-
wad Cristionogaeth a gwareiddiad, gydag amryw genhedloedd eraill. yn sefyll
ar y goddefol. Ond mae llwybr arall mwy sylweddol y gellir ein anrhydeddu,
sef fel cenedl yn flafr Duw, i'r rhai yr anfonodd ei Air yn fore, ac y cymerodd
o bonom bobl lawer i'w Enw, ac sydd erbyn hyn, yn cyfansoddi blaen y gâd yn
myddin Iesu, ac yn ei Enw yn cymeryd meddiant o'r "etifeddiaethau an-
nghyfaneddol."
Yr achos o fodolaeth y llyfr hwn sydd fel hyn.-Digwyddodd fod "Hynaf.
jaethau," &c, yn un o destynau Cyfarfod Llenyddol Llandegai, lle yr oedd
yn wyddfoddol y Parchedigion W Morgan, Offeiriad y Plwyf: E. Stephen, Tan
y marian; gydag O. Jones, (gynt y Fanchester); yr hwn a roddai anogaeth i
gyhoeddi y llyfr, gan ddyfod ei hun yn danysgrifwr am 5 copi, a dangosodd y
gynulleidfa eu cefnogaeth trwy godi dwylaw. Diangodd rhai gwallau ynddo,
ond a ganfyddir ar unwaith gan lygaid yr hynafiaethydd, y rhai dymunir
arno fyned heibio iddynt hyd oni cheir ail argraphiad, yr hyn cid yw beth ain-
hosibl, gan mai ychydig gano.dd a argraphwyd. Ond beth bynag am hyny,
yr wyf yn sicr y byddai yn hawdd gan y darllenydd gyd-ddwyn â'r awdwr,
pe gwyddai y llafur hliny bu ynddo yn ngorph y pur unlynedd diweddaf,
at eu gilydd, yn fel
Dylwn hefyd ddywedyd, ddarfod i mi gael cryn drafferth yn rhoi heibio yr
ysgrifenu, wedi dechre, oblegid cefais yn fuan, fod fy ngwladgarwch yn is na'r
croen, a bod fy ymysgaroedd wedi cynhesu at fy nghyd genedl.
y mae.
Nid oes yn yr ardal odid hen #r, na hen wraig, na llenor, na bum ar eu gofyn,
ac yn mysg eraill. dymunwn gydnabod y Parch. O. Wynne Jones, (Glasynys);
a Meistri O. Davies, (Eos Llechid); W. Jones, Maesmor House, Llangollen; a'ni
cydymaith ffyddlawn Mr. Elias Owen, yr Achub, am y darluniau o Gochwillan.
Heblaw y gwyr hyn, dymunwn dalu fy niolchgarwch gwresocaf i'r Parchedigion
H. Longueville Jones, Golygydd Archaiologia Cambrensis, i'r hwn mae ein cenedl
ni hefyd mewn dyled; ac hefyd i'm cymydog dysgedig a gostyngedig, yr anrhy-
deddus Archddeacon Evans; yr hwn am cynorthwyai yn ewyllysgar, pa bryd
bynag yr awn ar ei ofyn; ac yn enwedig felly, fy mrawd galluog, a chraffus, y
Parch, O. Jones. (gynt o Fanchester); gan yr hwn y cefais gymorth pwysig gyda'r
"Achau," a'i gyd-olygiad ffyddlon gyda phrofleni y llyfr. Fy niolchgarwch
penaf hefyd i'r oll o'm Tanysgrifwyr lluosog, a cban obeithio yr elwant rywbeth
afyddo yn lles iddynt wrth ei ddarllen am eu henafiaid gwrol, y gorphwys
eu hewyllysiwr da.

YE AWDWR,

Pendinas, Llandegai, Tachwedd 6, 1866.