Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dwyn enwau hon seintiau Ynys Brydain, ac yn cadw yr un cyffinau ag oeddynt o'r blaen o dan arolygaeth eglwysig.

Crybwyllasom o'r blaen mai yn. Nghantref Arfon y gorwedda Nantlle, Y cantref hwn a renid i ddau gwmwd, a elwid "Uwch-gwyrfai" a "Is-gwyrfai," y rhai a dderbynient eu henwau oddiwrth afon o'r enw, yr hon sydd yn ffurfio y terfyn ar un ystlys. Y cwmwd a renid hefyd i nifer o drefi neu dreflanau, ac y mae dyffryn neu nant Nantlle yn cynnwys rhanau o bump o'r treflanau hyn, sef. Tref y Llyfnwy, ar y tu ddeheuol i afon Llyfnwy, a'i hardreth yn myned at wasanaeth côr Beuno; Tref Eithiniog a Bryncynan, a'i hardreth i gael ei dalu i Dywysog Cymru; Tref y Dinlle, yr hon oedd yn dref ryddfreiniol yn meddiant y Tywysog, neu ei berthynas agosaf; Tref y Bennarth, a Thref Celynog, ardrethion y rhai a roddwyd at wasanaeth Eglwys Beuno, yn Nghlynnog fawr.

Cynnwysai pob un o'r treflanau hyn nifer o "welyau." Cyfreithiau Cymru, o dan ei thywysogion, a drefnant fod i bob plentyn, ar farwolaeth y tad, hawl gyfartal i'w diroedd a'i feddiannau, Y drefn hon a elwid "Gafaeledd;" canys pan fyddai pendefig farw, ac i'w diroedd gael eu rhanu yn gyfartal rhwng pob plentyn, gelwid cyfran unigol pob plentyn yn "wele" neu "wely," "Y gyfraith hon," medd Carnhuanawc, oedd dra niweidiol mewn amryw bethau, yn mhob gradd cymdeithasol; ond yn etifeddiaeth o'r orsedd yr ydoedd yn achlysurawl o ddrygau annhraethadwy; canys pan gymerai ei rhwysg yn heddychol, gwanhai y llywodraeth trwy raniadau bychain o'r awdurdod o un genedlaeth i'r llall, hyd nes na fyddai gan y gwahanol freninoedd bychain ddigon o gadernid i wrthladd ymosodiadau estronawl. A phan nad ufuddhaed i'r gyfraith yma, eithr i'r mab hynaf geisio gafaelyd ar y cyfan o'r llywodraeth, er gwrthodiad o hawl ei frodyr, yna byddai yn achlysur o ryfeloedd cartrefol o'r anianawd mwyaf gwrthun a dinystriol, y rhai o wanhaent y wlad lawer mwy na'r gyfraith ei hun. Ac hefyd, a barent i'r blaid wanaf yn wastad alw i mewn gynnorthwy estroniaid, y rhai yn fynychaf a ymsefydlent eu hunain yn y wlad, er mawr flinder a niwaid i'r trigolion."

Y mae yr hinsawdd yn y dyffryn hwn yn amrywiol. Yn y cwr uchaf, yr hwn sydd yn gorwedd wrth droed y mynyddoedd, y mae yr ardymheroedd yn oer a chyfnewidiol. Yn Drwsycoed, wrth odreu y Mynyddfawr, nid ydyw yr haul yn tywynu ond dros ychydig o fisoedd yn nghanol yr haf. Ac er fod y cwr uchaf yn fwy cysgodol, oddieithr ar ddwyrein-wynt yn unig, eto gan fod y Wyddfa, a'r trumau uchel ar bob llaw, yn orchuddiedig dros y rhan fwyaf o'r flwyddyn gan eira neu gymylau a niwl tawchlyd llaith, y mae yr ardymheredd hefyd yn y gwaelodion yn llaith ac oer. Ac heblaw hyny, y mae y trymau uchel yn dryllio y cymylau, o ba herwydd y mae yn fwy tueddol i wlawio yn y cwr uchaf; ac y mae y gwlawogydd yn gyffredin yn drymion a disymwth. Y mae rhanau hefyd o'r gwaelodion yn gorsydd gwlybion, o'r rhai yr ymgyfyd tarth afiachus ar brydiau. Pan ddeuwn heibio Penygroes, at waelodion y nant a glan y mor, y mae yr hinsawdd yn dynerach ac yn fwy sefydlog. Y