Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGDRAETH.

 Y MAE llawer wedi ei ysgrifenu ar ymweliadau â'r Aifft a Chanaan, o dro i dro, mewn ieithoedd eraill yn gystal ag yn y Gymraeg. Ond credaf fod lle i'r llyfr hwn, am ei fod yn wahanol i'r rhan fwyaf, os nad yr oll, o'i gyfathrach.

Bydd yn fwy personol.

Yma ceir y golygfeydd a'r digwyddiadau nid yn sefyll allan ar eu pen eu hun, fel pethau diberthynas; yn hytrach deuant atom â lliw myfyrdod y gweledydd arnynt i gyd. Bydd arddull ac argraffiadau meddyliol yr awdwr yn rhan o honynt, ac yn eu gwneud felly yn wahanol i'r hyn ydynt gan neb arall.

Nid yw llyfr o fath hwn i'w restru ymysg arwein-lyfrau (guide-books) a phethau o'r fath: llenyddiaeth ydyw, ac fel llenyddiaeth y mae i'w ddarllen a'i fwynhau. Os na fydd y darllenydd yn cydweled â phobpeth, bydd hynyn glod i'r awdwr ac iddo yntau, fe ddichon; oblegid gwn mai hoffach gan yr awdwr fydd deffro meddwl, a'i gadw ar ddihun, nag enill rhywysgafn-air o gymeradwyaeth teg yr olwg arno, ond byr ei hoedl.

Os daw'r llyfr â ni i adnabod yn well y Dwyreinfyd didwrf, cryd yr hil a chryd ein crefydd, bydd hyny yn dâl am ei ddarllen ac am ei ysgrifenu.

𝔏𝔩𝔲𝔫𝔡𝔞𝔦𝔫: 𝔊𝔬𝔯𝔭𝔥𝔢𝔫𝔞𝔣, 1904. ELFED.