Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hwyrach iddo gael gwell cyfleusdra. Yr oedd y ddau'n gyfranog yn y gwaith o anfon "Jones bach" i'm cyfarfod; a bendith ar eu pene.

Mi fydde'n dda gen i fod yn help i roi anfarwoldeb i'r bechgyn o Gairo. Ni wyddwn am danynt cy'myn'd yno, ond nid aeth diwrnod heibio wed'yn nad y'nt wedi bod yn fy nghôf ac yn fy nghalon. Yr oedd yna wahanieth dybryd rhyngddynt, ond yr oedd pob un o honynt yn garedig yn ei ffordd ei hun, ac am y caredica'. Jones oedd yn cael ei ollwng amla' hefo mi, am ei fod yn "Sentar" fel fine. Bachgen glân ei groen a'i siarad oedd efe—gwisgi ar ei droed a'i dafod—ei bersonolieth yn f'adgofio o Towyn a'i "arian byw"—y'medru siarad â'r brodorion fel un o honynt hwythe—ac yn gwybod am bob "twll a chornel" yn y ddinas cystal a'r trempyn o gi mwyaf afradlon y tu fewn i'r lle. Bu'n waredwr i mi ragor nag unweth ar ol y tro hwnw'n yr orsaf, ac ni f'aswn iached fy nghroen na llawned fy llogell yn gadel Cairo oni bai am dano ef. Un o ardal Gwrecsam oedd Roberts, ac ni che's ei gwmni ef ar ei ben ei hun, fel y ddau arall, ond bob tro'n un o'r tri. Dipyn yn dỳn ar ei 'piniwn oedd Roberts, ac mi a'i gweles siwrne agos a d'od a ni i drybini go gâs oherwydd yr elfen amlwg hono yn ei natur. Ac eto, fe ddeue i fyny fel corcyn i wyneb y dw'r pan fydde pobpeth y'myn'd i brofi ei fod i lawr yn y gwaelod