Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XVII.

CAIRO WEDI'R NOS.

 GORCHWYL blinedig yw cerdded yno'n hir iawn. Un peth sy'n peri hyny yw, fod y gwres gyment. Peth arall, nid yw'r dynion sy'n myn'd i'r dwyren am dro yn gwneud fawr wahanieth yn eu gwisgoedd: o ganlyniad, teimlant yn fwy oddiwrth y gwres. Temtasiwn i mi oedd gwisgo "mwfflar" yn yr Aifft, yn unig am ei fod yn bechod parod imi y'Nghymru. A pheth arall, ar amsere neillduol ar y flwyddyn, yn enwedig cyn i'r haf dd'od i fewn, disgyna gwlaw lled drwm; a rhwng y gwlaw a'r deunydd meddal sy'n cyfansoddi'r ffyrdd, gadewir swm cyfrifol o fẁd trwchus ar ol. Dyma'r adeg y mae pobl y Gorllewin yn ymwel'd â'r Aifft fynycha'; ac y mae cerdded ar wadne llyfn o ledr yn y mẁd Aifftedd hwn yn orchwyl sy'n tynu'r chwŷs ac yn trethu'r dymer. Bron nad ydych y'myn'd gyment yn ol ac y'mlaen, fel mai ychydig o gynydd ymarferol a wnewch drwy'r dydd. Nid yw'r brodorion yn teimlo dim oddiwrth yr anhawsder yma, am eu bod yn droednoeth; a thra byddwn i'n cosbi 'nghorff i