Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GAIR YN EI BRYD.

——————

——————

 TEG yw dweyd i lawer o gynwys y llyfryn hwn ymddangos mewn rhifyne o'r Celt ar Tywysydd; eto, ceir yma dwsged o bethe'n gwel'd gole' dydd am y tro cynta', heblaw fod y lleill dipyn yn fwy trwsiadus eu lliw a'u llun. Prin y baswn yn eu cyhoeddi mewn ffurf mor ymhongar oni bai am gymelliade cyfeillion, y penaf o ba rai yw'r boneddwr y cyflwynaf y llyfryn iddo. Ceisiaf yn ostyngedig i'r cynorthwyon fod gryfed ar cymelliade, fel na bo i farug Siomiant ddifa blagur f'anturiaethe llenyddol.

Mae'r un mor deg hefyd imi grybwyll enwe a chydnabod persone a wnaethant fy nhaith yn gysurus a llwyddianus drwy eu caredigrwydd ffodus a diffwdan. Heblaw f'eglwys fy hun yn y cyfanswm o honi, na'r hon nid oes ei gwell y'Nghymru, dyna W. Phillips, Ysw., Cynghorwr W. T. Jones, Ysw., D. Morgan, Ysw., Mri. T. E. Jones, A. Pimm, a Henry Jones, o Dreorci; y Parch. J. R. Davies a'i deulu dedwydd, Caerdydd; J. Davies-Bryan, Ysw., Alecsandria; E. Davies-Bryan, Ysw., Cairo; ynghyda thri o "o fechgyn" yr ola, sef Jones, Huws, a Roberts. Dymunaf ore' deufyd iddynt oll, a bendith gwraig a phlentyn dros ben.

Oddiwrth yr AWDWR.