Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'doedd dim posib' ei gael i fyn'd yn ei flaen wrth reol. Ele ar garlam wyllt un eilied, yna fe safe'n sydyn nes d'rysu cydbwysedd y truan oedd ar ei gefn, a'i yru ef yn ei flaen yn ddïewyllys. Desgrifie gylche ac ongle ar y 'stryd mor gywir a dim a welsoch mewn Euclid, ac yr oedd yn ymddangos i mi'r prydie hyny fel pe'n awyddus i wybod safle anianyddol ei gynffon. Yr o'wn yn hollol at ei drugaredd, ac nid hir y bum cyn d'od yn arg'oeddedig fod yn rhaid i mi fod ar ddihun o'm pen i'm traed y diwrnod hwnw os am fod yn groeniach. Wedi gwneud penderfyniad o'r natur yna, yr oedd yn rhaid glynu wrtho; a cha'nad o'wn mewn cyflwr prïodol o ran fy meddwl i fedru gwahaniaethu rhwng y penderfyniad a'r asyn—er fod genyf ryw syniad amrwd fod yna berthynas gyfrin rhyngddynt—mi dybies fod glynu wrth y naill yn gyfystyr a glynu wrth y llall. A dyna fel y llwyddes.

Trwy gydol yr amser, edryche Ali'n dawel arnom; a phan y 'storiwn ddigon o anadl i apelio ato, dyna dd'wede:

"Peidiwch ofni—daw ato'i hun yn union!"

A gwir a dd'wedodd. Ond pan ddaeth ato'i hun, daeth Ali ato hefyd, a dechreuodd ei bastynu'n ddidrugaredd: a dyna sy'n gwneud i mi betruso rhwng y rhesymolion a'r afresymolion. Sut na fase Ali yn ei bastynu pan oedd yr asyn yn an'stywallt, ac nid wedi iddo edifarhau? Ond os o'ent hwy'n deall eu gilydd, pa wahanieth?