merch Pharo' o hyd i waredwr dyfodol plant Israel. Wel, 'ro'dd'no ddigon o hesg i guddio sgoroedd o blant yr Hebrëwyr. Nid wyf yn cofio dim arall o'r daith, oddieithr fy llawenydd o gael fy nhraed ar y tir ar ei diwedd.
Ni fum erioed yn yr afon, ac ni fu dafn o'i dyfroedd erioed ynof ine, trwy wybod imi. Nis gwn p'run yw'r gwaetha', ai yfed o honi ai ymolchi ynddi. Mi weles erill yn gwneud pob un o'r ddau, a 'roedd hyny'n ddigon, a mwy na digon i mi.
Pan yn ei chroesi un diwrnod ar rafft, tynwyd fy sylw at ddyn oedd y'myn'd trwy ddefod ei buredigeth (dybygwn i) yr ochr ucha i ni. Yr oedd hyd ei forddwydydd yn y dw'r, heb bilin am dano, ac wrthi mor brysur a phe b'ase blwyddyn wedi myn'd heibio oddiar pan y bu wrthi ddiwedda'. Wedi i mi fod yn gwylio'r crëadur noethlymun am bum' munud mor fanwl a phe bawn yn disgwyl iddo droi allan yn löwr o Abergorci, ebe Huws wrthyf—oblegid efe oedd hefo mi'r tro hwn eto:
"Dacw i ch'i bictiwr arall yr ochr isa'; 'drychwch arno y'ngole'r llall."
Edryches, a dyma be' weles. Dyn o'r un lliw a'r llall yn y dw'r hyd at ei benlinie, a chostrel o groen yn hongian wrth ei ochr yn geg-agored, a thamed o flwch alcan wedi ei fylchu drosto, tebyg i hen "dìn sa'mon" wedi ei wagio a'i daflu i'r afon, yn ei law dde'n codi dw'r i'r gostrel. Pan ddaethom y'nes ato, mi weles taw