Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddiwrtho, ond 'roedd y pellwelydd yn un cryf dros ben. Oera'r awyrgylch yn fawr ar ol machlud haul, a disgyna'r gwlith yn drwm. Par hyny ei bod yn beryg' i mi fod allan ar y dec wedi iddi ddechre' t'w'llu. Mae'r criw wrthi fel lladd nadrodd yn glanhau'r hen long, drwy ei phaentio a'i thrwsio, ei golchi a'i thario. Bwriedir iddi fod fel prïodasferch wedi ymdrwsio i'w phriodas erbyn cyredd Alecsandria. Eto, unffurf iawn yw bywyd o hyd. Dathlu Dy'gwyl Dewi yn fy meddwl, drwy ddwyn ar gof i mi fy hun sut y dathlem ef panyn blant yn hen dre'r sir. Cofio am y seindyrf yn chware', y clybie'n cerdded, y baneri'n chwyfio, a'r pwdine a gaem y'nghysgod ein perthynas â rhai o'r swyddogion. Torwn allan i chwerthin weithie pan ddeue ambelli ddireidi i'r wyneb, a thybiwn fod y prif swyddog yn edrych yn amheus arnaf. Ni ŵyr y Cymro arall ddim am Dewi Sant a'i wyl, mwy nag y gŵyr twrch daear am yr haul.

DYDD SADWRN, YR 2IL.—Tir Tunis yn y golwg. Safle'r hen Garthage, cartre' Hanibal, a gwrthymgeisydd Rhufen am feistroleth y byd. Dacw bont grogedig Bizarte. Dyma ynysoedd Galita, y Brodyr, Zembra, a Zambretta. Mae mynachlog yn perthyn i Eglwys Groeg ar ben Zembra. Mae darne' o'r ynysoedd hyn dan arwyneb y dw'r, ac felly'n beryg' i longe. Darne o'r cyfandir, yn ddïame, ydynt oll, ond wedi myn'd yn wahanedig rywbryd drwy gyffröad tanddaearol a thanforol. Gwel'd amryw o bysgod hedegog;