Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IX.

UN ARALL ETO.

 DYDD SUL, Y 3YDD.—Tywydd tawel o hyd—diolch i Lywydd y môr am hyny. Diwrnod golchi'r criw: golygfa ryfedd i Gymro crefyddol. Mae pen blaen y llong fel cefen un o dai Treorci, yn gortyne a dillad golchedig o gẁr i gẁr. Rywbryd yn y bore' aethom heibio i ynys o'r enw Pantellaria. Perthyna i'r Eidal, ac y mae ynddi benydfa i droseddwyr dan lygad y Llywodreth. Mae'r tai a'r gerddi i'w gwel'd yn dlws a swynol nodedig o'r llong. Tua chanol dydd ce's gipolwg ar un o'r ynysoedd Melitaidd draw y'mhell—prin y gwyddwn y gwahanieth rhyngddi a chwmwl yn codi o'r môr. Erbyn tri y prydnawn yr o'em wedi d'od gyferbyn â hi. Gozo yw ei henw, a hi yw'r ail mewn maintioli. Mae'n ddarn braf a gwrteithiedig drosti. Ceir arni bentrefi mawrion, heb fawr o drefn, ond llawer o brydferthwch. Cyfnewidiwyd arwyddion wrth basio. Yn union ar ol cwmpasu Gozo, dyma Malta i'r golwg—Melita Llyfr yr Actau. Meddwl mwy am Paul nag erioed. Oasis y'nghanol anialwch dyfrllyd