Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhwng y docie a'r dre' yr oedd clwydi tebyg i'r hen dollbyrth gynt. Yn eu hymyl safe nifer o blismyn, gwaith y rhai oedd edrych na bydde nwydde trethol o un math yn cael eu smyglo drwodd o'r llonge i'r dre', ac o'r dre' i'r llonge. Yr ochr arall i'r ffordd, yn union gyferbyn a'r clwydi, yr oedd adeilad crwn, tebyg i dŵr castell, yn yr hwn yr eistedde dau swyddog o awdurdod diamheuol, y rhai a agorent ac a archwilient bob pecyn a ddrwg-dybid—ac na ddrwg—dybid yn aml. Nid oedd hawl gan y bechgyn yn ymyl y clwydi, er ame' eich pecyn, i'w agor, nac hyd y'nod i'w gymeryd o'ch llaw yn y fan hono: eu dyledswydd hwy oedd myn'd a chwi a'ch pecyn i'r tŷ crwn yr ochr draw. Ond yr oedd ambell un y'mynu rhoi cam neu ddau dros ben ei ddyledswydd, ac fe wnele fyr waith o'ch eiddo'n bur ddiseremoni o dan lyged y werin, os nad argyhoeddech ef eich bod cystal gŵr ag yntau am ei ddanedd. Gwnaed hyny â mi ddwyweth—pan o'wn y'myn'd i ddal. y trên i Gairo, a phan o'wn yn dychwelyd. Ond mi achwynes arnynt y ddau dro yn y tŷ crwn, ac ni chlywsoch erioed y fath dafod a gawsant! Ceisiasant wneud yr un peth â mi wed'yn, heb fy adnabod; ond daliodd un o honynt fy llygad mewn pryd, d'wedodd air wrth ei gymydog, a gwthiasant fi'n llyth'renol i'm ffordd—megis y gwthie'r Aifftied yr Israelied gynt i'w taith. Ar ol hyny, yr wyf bron yn sicr y gall'swn smyglo faint fyd fynwn o "lâs," a thybaco,