Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ngwep ine ronyn gwell, mi wn. Yr oedd e' o'r farn taw gwell oedd disgyn; barnwn ine taw gwell oedd ini lynu wrth y cerbyd, ar dir rheswm a 'sgrythyr. A dyna fu ore'. Wedi ymryddhau o'r criw 'stwrllyd, a chael llwybr clir drachefn, cawsom digon o achosion i ddïolch taw nid ar ein traed yr o'em. Yr oedd y cerbydwr wedi colli'r ffordd cyn cyredd y clwydi, a chollodd ei ben wed'yn; y canlyniad oedd, ini gael awr arall o chw'sfa cyn cyredd y doc, rhwng ofn a phryder a phobpeth. Chwarddasom yn galonog y noson hono, ar ol ini gael ein traed ar ein tomen ein hunen.

Pan o'wn wedi bod yn treulio'r prydnawn Sul hwnw gyda'r ffrind o Gymro y sonies am dano, tua chwech o'r gloch mi feddylies ei bod yn bryd i mi gychwyn yn ol, os o'wn am gael odfa bregeth yn y Sefydliad i'r Morwyr, yn ol y cynllun. Yr oedd genyf awr o amser wrth gefn. Cymerodd fy nghyfell boen i'm cyfarwyddo sut i gael gafel ar y tram, ond bum yn hir cyn d'od o hyd iddi. Cerddes fwy na mwy, ac er holi, nid oedd neb yn fy neall, na mine'n deall neb. O dïolch, dyma hi o'r diwedd—ond mae hon yn rhy lawn i gynwys rhagor. Gadewes iddi fyn'd, ac aroses am y nesa'. Wel, wel, mae hon yn llawnach na'r llall, ac yn colli drosodd o ddynion! Rhaid imi dreio bachu'r drydedd, neu ffarwel i'r odfa. Neidies i fyny, a ches led troed ar y grisyn i sefyll. Ni welsoch gynifer o bobl erioed mewn un cerbyd.