Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwelwn ambell i fad afrosgo'n croesi, ac weithie'n glynu'n yr hesg. Tyfe'r hesg yn dew ac yn uchel dros rane o'r afon,—mor dew ac mor uchel nes cuddio peryg' i'r ymdrochwyr a'r gwehynwyr dwfr. Welwch chi'r tamed tywyll acw sydd yn edrych fel darn o bren pwdr y'nghanol y llafrwyn? Ha! dyna fe'n symud, ac yn llithro'i lawr i'r dw'r. Beth yw hwna, Moses? Dyna un o grocodilied yr afon, y rhai a ddeuant i lawr can ised a hyn yn amser newyn, a'r rhai a addolir gan y bobl fwya' anwybodus, fel na wnant ddim iddynt i achub eu bywyd eu hun na bywyde eu gwragedd a'u plant.

Ar ol teithio tair milldir neu ragor gyda glàn yr afon, troisom i fewn i erddi'r Brenin. Maent yn eang ac yn ffrwythlon, ond mor afler a'r tamed gardd sydd genyf fi y tu cefn i'r tŷ lle'r wyf yn byw. Ceir ynddynt goed palmwydd wrth y miloedd, yn enwedig y date-palm. Tŷf y rhai'n yn dalion iawn. Mi weles ddynion yn rhedeg i fyny i'w brige ucha' fel gwiwerod, i'w talfyru. Rhwymant wregys cryf am eu canol, ac am y pien, ac esgynant mewn cyfres o herciade. Mae yma hefyd nifer fawr o goed ffigys a banane. Nid hir y buom cyn myn'd i'r Amgueddfa i wel'd y cyrff fu'n gorwedd ar yr estyll yn y Bedde Tanddaearol. Ni ddeil hon i'w chymharu âg Amgueddfa Ghizeh, yn Cairo. Ei phrif nodwedd oedd hyfdra'r swyddogion ofalent am dani. Codent dreth arnoch am gael