Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XV.

YN Y TREN I GAIRO.

 MAE gwel'd trên yn yr Aifft yn ysbeilio'r wlad henafol hono o swm nid bychan o'r gogoniant gysylltir â hi'n gyffredin, ac â phob gwlad o'i bath. Bid siwr, ceir ynddi gamelod ac asynod, ychen a dromedaried, y'nghyda phedwaried cyffelyb; ond ceir ynddi drên hefyd, ac y mae hwnw'n Gorllewineiddio pethe'n anghyffredin. Ac eto, oni bai am y trên, sut y galle teithwyr glirio cyment o dir mor ddidrafferth, a gwel'd cynifer o ryfeddode mewn can lleied amser? Yr oedd y pryd hwnw'n rhedeg i Cartŵm, pellder o ddwy fil o filldiroedd; ac y mae wedi rhedeg bwer y'mhellach oddiar hyny. Tebyg yw na orphwysa mwy nes y tramwya o eitha'r Gogledd i eitha'r De. Pan yn codi tocyn o Alecsandria i Cairo, mi ofynes o gywreinrwydd pa faint a gostie tocyn o Alecsandria i Cartŵm un ffordd: a be' feddyliech oedd yr atebiad? "Deg punt ar hugen!" Mi wnes fy meddwl i fyny'n union taw gwell i mi oedd peidio myn'd mor bell a hyny y tro hwn, gan'ad sut y bydde wed'yn. Gorwedda dros