EMYN HEBER.[1]
O YNYS Ia fynyddig,
O draethau India fawr,
Lle cluda ffrydiau Affrig
Y tywod aur i lawr,
O lawer gwlad ddyfradwy,
O froydd y palmwydd ffaeth,
Erfyniant ein cynorthwy
Rhag grym coel grefydd gaeth.
Er chwythu'u bêr dros ynys
Ceylon awelon hael,
A phob golygfa'n foddus,
Yn unig dyn sy'n wael;
Yn ofer mewn tiriondeb,
Cael rhoddion Duw ar daeri,
Y Pagan trwy ddallineb
Addola bren a maen.
A allwn ni, oleuwyd
Drwy râd y nefoedd fry,
Nacâu rhoi lusern bywyd,
I'r sawl mewn t'wyllwch sy?
Cyhoedder Iachawdwriaeth
A gorfoleddus lef,
Nes dysgo'r byd wybodaeth
O enw Eneiniog nef.
Ewch wyntoedd, ewch â'r newydd,
A chwithau foroedd mawr,
Nes bo'i ogonawl gynnydd
Yn llenwi daear lawr;
A boed i'r Oen a laddwyd,
Ar ei waredol ryw
Deyrnasu fyth mewn gwynfyd,
Yn Brynwr ac yn Dduw.
- ↑ Addasiad o From Greenland's icy mountains gan Yr Esgob Reginald Heber