130 IFOR OWAIN. "Hyd yn oed pe bact wedi Yr oedd ar fin dweyd rhywbeth pwysig, ond gwnaeth sŵn o'r tu ol beri iddo dynnu ei hun at ei gilydd, a chau ei wefusau fel un yn penderfynu na chai neb na dim lusgo ei gyfrinach i'r amlwg. Edrychodd Gwladys ac yntau i gyfeiriad y sŵn, a gwelsant ddrws y plas yn agor yn araf a distaw, ac er eu mawr ddychryn, gwelsant wyneb dyn,-gwyneb eilliedig offeiriad neu fynach,-- yn edrych allan yn y modd mwyaf gochelgar, i gael gweld pwy oedd yn ymddiddan yn y porth. Pan welodd y cardotyn y gwynel, syrthiodd fel un marw wrth draed Gwladys, a phan welodd perchen y gwyneb ef yn syrthio, rhuthrodd yntau yn ei ol trwy'r tŷ gwag fel euogddyn yn rhuthro a dialydd y gwaed ar ei sodlau. Wedi i sŵn ei ffoedigaeth ddistewi yn y pellter, rhedodd. Gwladys i gyfeiriad arall i chwilio am ddwfr er ceisio dwyn y truan wrth ei thraed i ymwybodolrwydd. Bu yn hir cyn sicrhau ei hun ei fod yn fyw, ond ar ol ei glywed yn anadlu'n araf, nid arhosodd funud i ofyn cwestiynau iddo am yr hyn a ddigwydd- odd. Gwnaeth ei ffordd mor gyflym ag y medrai symud i'r Neuadd Fach. Cyn pen fawr o amser, yr oedd wedi dychwelyd gyda Delyth a Mwynwen Huw, a rhingyll Mwynwen yn ei chanlyn. Wedi cael y cardotyn i lyneu cymaint o luniaeth ag oedd yn bosibl dan yr amgylchiadau, rhoddodd Mwynwen ymarferol a meistrolgar nifer o orchmynion pendant i'w rhingyll, yr hwn oedd yn ddyn cryf, a chymerodd y ddwy ferch ieuanc i'w chanlyn er dangos iddynt rai o ryfeddodau y plas, à pha rai yr oedd yn gyfarwydd er pan yn blentyn. Sicrhaodd Gwladys, yn y cyfamser, y cymerai y rhingyll ofal o'i chardotyn hyd nes y dychwelent. Hyd yn hyn, nid oedd Gwladys wedi dweyd gair am y gwyneb a ymddanghosodd y tu ol i'r drws nac am ffoedigaeth ei berchennog. Ar ol tramwy trwy amryw ystafelloedd, llychlyd a thywyll, daethant yn sydyn i ystafell oleu, lân a threfnus. Yr oedd tân yn y grat, llyfrau ar y bwrdd, awrlais bychan yn tipian ar astell gerllaw, a chath ddu fawr yn canu ei chrwth ar yr aelwyd. Pan welodd Delyth y gath, rhoddodd ysgrech, a thynnodd allan ei llawddryll mewn dychryn mawr. Ond nid oedd yno neb iddi ymosod arno, ond y gath ddu. Wedi iddi gael ei hanadl, eglurodd
Tudalen:Ifor Owen.djvu/138
Gwedd