Tudalen:Ifor Owen.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blaenllaw wahoddwyd gan Syr Ifor Owain a'i briod i'w gyfarfod, yr oedd Arthur Vychan, Llys Dirlwyn; Gwyn, ei frawd, a'i briod; Cadben Huw Idris a'i briod yntau, a'r hen amaethwraig ardderchog, Mwynwen Huw. A dyma yr adeg yr eglurodd Oliver i flaenoriaid ei gyd-genedl paham y newidiodd ei hynafiad hen enw Cymraeg y teulu o Williams i Cromwel.

——— ——— ——— ——— ——— ———

Pardduwyd llawer ar gymeriad Cromwel gan y rhai y bu efe yn foddion i ddyrysu eu cynlluniau drygionus, ac ar hyd y blynyddau. bu disgyblion a dilynwyr y pardduwyr yn gwneyd eu goreu i ledaenu'r athrod gwaradwyddus; ond fel y mae addysg yn dod yn fwy cyffredin, a'r werin yn dod yn fwy goleu ac anibynnol ei barn, cydnabyddir fod Oliver Cromwel yn ŵr o egwyddor ddi- wyro, awyddus i ymddwyn yn deg a chyfiawn, yn wladgarwr gwirioneddol, ac yn un o'r rhai y mac Prydain heddyw yn ddyledus iddynt am ei rhyddid gwleidyddol a chrefyddol.

Bendigedig byth fo coffadwriaeth y cyfryw rai.