Tudalen:Ifor Owen.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gryfach na'u hanner gyda'u gilydd. Trodd y digwyddiad allan yn brif fendith ei oes, oherwydd i'r agweddau yma ar ei ymddygiad dynnu cymaint o sylw y foneddiges ieuanc nes iddi barhau i edrych arno yn lled graff am gryn ysbaid. A hi eto'n sylwi'n fanwl ar fynegiant cyfnewidiol ei wynepryd, tra'n cymhwyso geiriau tanllyd y llefarwr at ei gydwybod ei hun, gwelodd fod arweinydd y gethern, gafodd eu taflu allan mor ddiseremoni trwy y drws, wedi dod ato'i hun, a chodi ar ei draed, ac yn chwilio am le a chyfleusdra i ymosod ar y pregethwr a'i amddiffynydd yn llechwraidd o'r tu ol i'r llwyfan. Yr oedd y llwfrddyn gwael mor feddw erbyn hyn fel yr oedd yn hollol ddiofal pwy oedd yn gwylio ei symudiadau nac yn gwrando'i fygythion.

Yn gweld oddiwrth ei symudiadau llechwraidd a'i wên ddieflig ei fod yn bwriadu dialu ar yr hwn a'i gwnaeth yn chwarddgyff i'r dorf, gosododd Delyth ei hun mewn safle i'w wylio'n fanwl. Ac nid cynt y gwnaeth hynny, nag y bu bron a llewygu'n farw gan ddychryn wrth weld yr adyn yn anelu ei lawddryll, yn syth at gefn ei elyn. Munud arall, a buasai, yn ol pob tebyg, wedi ei saethu'n farw, ond cyn i chwarter y funud fynd heibio, adfeddiannodd y ferch ddewr ei theimladau, a thaflodd ei hun yn gorfforol ar y creadur cythreulig, a rhoddodd ysgrech am gynhorthwy, nes i holl gymoedd yr ardal adseinio ei llais, a phob aelod o'r dorf fawr neidio oddiar ei draed. Yn yr ymdrech rhyngddi â'r adyn llofruddiog, aeth yr ergyd allan o'r lawddryll, ac ehedodd y fwled rhwng ei braich chwith a'i chorfi, gan gymeryd darn o gnawd y fraich ymaith. Cymerodd y cyfan le mewn ychydig eiliadau, ac yr oedd y cawr ieuanc yr anelwyd at ei fywyd ar un ochr iddi, a'r pregethwr ieuanc ar yr ochr arall, cyn i neb braidd gael amser i sylweddoli beth ddigwyddodd. Pan welsant waed y ferch yn lliwio ei gwisg, bu bron iddynt a rhoi terfyn ar fywyd y filain a'i tywalltodd. Ac oni bai i Meistr Wroth, a'r henafgwr y soniasom am dano eisoes, ymbil arnynt atal eu dwylaw, mae'n amheus a gawsai y creadur adael y fan yn fyw. Er fod ei gwaed yn rhedeg yn gyflym, a'i braich mewn poen angerddol, ni chollodd Meistres Kyffyn ei hunanfeddiant, am un foment. Tra'r oedd ei morwyn, a merched ereill o'i hamgylch, wedi dychrynnu gymaint nes oeddent yn rhy gynhyrfus i wneyd un math o ymdrech i gynorthwyo y ferch glwyfedig, yr oedd