Tudalen:Ifor Owen.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IFOR OWAIN.


Pennod I

AR noson dawel, dywell, ychydig cyn hanner nos, tua diwedd mis Medi, yn y flwyddyn 1642, safai gŵr ieuanc ar bont Casnewydd ar Wysg.[1]

Gorchuddid ei berson o'i ben i'w draed gan fantell. filwrol o liw tywyll. Gwisgai ei het,—i'r hon yr oedd cantel. lletach na'r cyffredin,—mor isel ar ei dalcen fel nad oedd ond ychydig o'i wyneb i'w ganfod. Pe gallasai yr ychydig fforddolion aethant heibio yn ystod yr awr y bu yn sefyll yn syth yn y gongl dywell dan gysgod tŵr uchaf yr hen Gastell, nesu yn ddigon agos ato i sylwi ar ei wyneb, gwelsent rywbeth fuasai yn eu dychrynnu trwyddynt. Er mor dawel a digyffro yr ymddanghosai, yr oedd y fath dân yn ei lygaid, y fath atgasedd yn ei edrychiad, a'r fath benderfyniad ansigladwy yn argraffedig ar ei holl osgo pan y syllai trwy y tywyllwch ar yr afon islaw, fel y gellid gweld. yn hawdd ei fod wedi dod yno i gyflawni,—neu i geisio cyflawni,— rhyw weithred erchyll.

Yr oedd bellach awr a hanner er pan y cerddodd yn llechwraidd o gyfeiriad Eglwys Sant Gwynlliw i'r gongl dywell lle y

  1. Newport, Mon.