Tudalen:Ifor Owen.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

84 IFOR OWAIN. llwybr yn glir, a daeth yn ei hol yr ail dro yn edrych yn union. fel un a gredai iddi weld drychiolaeth. Bu bron i Delyth roddi ysgrech pan welodd ei gwyneb, ond cafodd nerth i feistroli ei hun, ac i sibrwd dan ei hanadl,- "Beth, neu pwy welaist ?" "Y mae Breddyn a Hywel yn yr amrodfa yn paffio, ac y maent mor feddw ag y gallant fod." "Rhaid i ni fynd allan trwy ryw ffordd arall." "Mae yn amhosibl. Oherwydd yr arfau sydd yma, nid oes yr un gongl na mynedfa heb wyliwr." Ac nid oes ond naw awr cyn y bydd pob cyfle am ryddid wedi cau i mi am byth. O Arglwydd, dangos i mi beth a wnaf!" "Mi wn pa beth a wnawn. Mae dillad goreu y milwr a feddylia gymaint o honof o fewn cyrraedd. Rhaid i ti eu gwisgo, a chymeryd arnat mai ti yw y milwr sydd ar ddyledswydd yn y rhan yma o'r Castell, ac iti fod ar ymweliad â fi, dy gariad, rhaid i finnau gymeryd arnaf fod yn swil wrth dy anfon yn ol at dy ddyledswydd. Os gelli lywodraethu dy hun a newid dy lais i'r fath raddau fel ag i gyfarch Breddyn fel swyddog uwchraddol, a gofyn iddo beidio dweyd arnat, mae yn ddigon coegdybus a meddw i ti allu ei dwyllo i unrhyw raddau. Pan fyddi di yn hudo'r pennaeth, byddaf finnau yn gwneyd ffolyn o'r llall trwy addaw ewpanaid o fêdd gore'r Castell iddo ar fy nychweliad. Paid edrych mor amheus ac ofnus, os nad ydym yn ddigon cyfrwys i dwyllo y ddau hurtyn acw, nid ydym yn werth ein halen, heb son am ein rhyddid. Tyrd, cymer galon!" "Y mae bron yn ganol nos !" Dyna paham yr wyf yn erfyn arnat i beidio colli amser. Unwaith heibio'r ffolion acw, byddi'n rhydd a diogel am dy fywyd. Aros yma, a byddi'n wraig i Breddyn Kemys!" Diflannodd y mymryn olaf o betrusder yng ngwyneb y posibil- rwydd ofnadwy hwn. Ymhen llai na hanner awr, aflonyddwyd. ar y paffwyr prysur yn yr amrodfa gan bresenoldeb anis- gwyliadwy milwr a'i gariad. Rhoddodd Megan ysgroch, a chymerodd arni ffoi pan ddaeth i olwg y ddau foneddwr, ond er meddwed oedd y ddau, rhedasant am y cyntaf ar ol y llances, ac wedi ei dal, ni wnaeth yr un ohonynt fawr sylw o'i chyd- ymaith a'i ymddiheuriadau. Yr oedd y ddau yn adnabod Megan, ac am wybod pa le yr oedd ei meistres.