Yn y Traethodydd am 1870 hefyd, ymddengys ei dreithgan ar "Farwolaeth Picton," ac yn hono y digwydd y gyferbyniaeth (antithesis) gryfaf, fe ddichon, sydd yn ei waith:
Mae'r gelyn yn nesu ei luoedd aneiri'
Mae gynau'n cynesu a dynion yn oeri!
Ceir dau arall o gynyrchion ei ysgrifbin yn yr un cylchgrawn. Un, sef ei fugeilgerdd "Owain Wyn," mor gynar a'r flwyddyn 1857; a'r llall yn 1872, cân a ddarparwyd i gerddoriaeth gan Mr. B. Richards, ac a elwir y "Gadlef Gymreig." Gresyn na fuasai rhagor o'i waith yn addurno dalenau yr hen gyhoeddiad clodfawr.
Ar daer wahoddiad y pwyllgor, daeth i Liverpool yn Nadolig, 1869, i arwain Eisteddfod y Gordofigion. O'i anfodd yr ymgymerodd â'r swydd. Yn wir, diflas ganddo bob amser oedd ymddangos ar y llwyfan gyhoeddus; yr oedd rhyw wyleidd-dra a chwithdod yn ei luddias i deimlo'n hapus pan syllai mil neu ddwy o lygaid arno. Perthynai ef i'r dosparth hwnw y cyfeirir ato yn yr hen gyswynair, "Cared doeth yr encilion." Fel cant a mil o feirdd a meddylwyr eraill, dewisai ef y gil a'r gongl ddinod yn hytrach na'r cyhoeddusrwydd penaf. Bendithiwyd ef â'r ddawn i siarad â'i gyd-dynion gyda'r ysgrifbin ac nid gyda'i dafod. Dywedodd filoedd o ffraethebau, difyr eiriau, a doeth ymadroddion, wrthym; ond cawsom hwynt bron i gyd o'i ddeheulaw, ac nid o'i enau. Pan na fyddai'r hwyl gymdeithasgar arno, ymgollai yn nghanol yr ymgom, ac âi ei feddwl ar grwydr i fyd ei fyfyrdodau. Ond fel arweinydd Eisteddfod y Gordofigion, aeth trwy y gwaith yn well o lawer nag y disgwyliai. Cafwyd cryn hwyl gyda'r telynor-un o delynorion y dref, a ddaethai i mewn i lanw'r bwlch yn absenoldeb yr un arferol. Bernid fod y delyn a'r telynor wedi gwlychu; pa fodd bynag, gwnaent oernadau