arall yn nyffryn yr Hafren, y mae'r iaith Gymraeg wedi cilio yn raddol, a'i lle wedi ei gymeryd gan rhyw lun o Saesneg-egwan, mae'n wir, ond digon cymhwys, hwyrach, i feddyliau diyni y bobl sydd yn ei defnyddio. Daeth y cyfnewidiad hwn oddiamgylch nid gan unrhyw chwyldroad sydyn, ond yn raddol, raddol; galluoedd meddyliol y bobl yn gwanychu o dipyn i beth, a'u tafodiaith yn dyfod yn rhy gref iddynt ei harfer. Glynant er hyny wrth yr enwau Cymreig, megys Jones, Williams, &c., a rhai o enwau hen Gymry sir Drefaldwyn, megys Bebb, Gittins, Jarman, &c., yn eu plith; a phrawf eu pryd a'u gwedd eu tarddiad Cymroaidd. Enwau Cymreig sydd yn para ar yr amaethdai a'r meusydd, ond fod y sillebu weithiau yn chwithig; Pendree y galwant Pendre, a gwelsom y gair Wig wedi ei sillebu ar gareg fedd yn Weeg! Wrth wrando arnynt yn siarad â'u gilydd am yr heol â hwynt, pâr y dinc Gymreig sydd yn nhôn eu llais i chwi dybied mai iaith eu hynafiaid a lefarant. Chwibienir hen alawon Cymru ar y ffyrdd, a chyflwynant yr ychydig ddyddordeb a deimlir ganddynt at faterion cyhoeddus i symudiadau Cymreig, Y maent yn rhyw fath o Gymry clauar mewn pobpeth ond iaith. Ceir yn y lle dri chapel Ymneillduol, a chapel-eglwys perthynol i Lanwnog, eglwys y plwyf; ond nid oes yno achos. Cymraeg o fath yn y byd, ac, fel y gwelir oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, angen am dano ychwaith. Ni bu yn eglwys Llanwnog yr un gwasanaeth Cymraeg er's 25ain mlynedd.
Dyma y fath bobl oeddynt gymydogion y bardd yn Nghaersws. Neb gerllaw allai gydymdeimlo a'r pynciau y teimlai ef ddyddordeb ynddynt; undyn y gallai siarad âg ef ar y testyn oedd wedi llyncu ei holl feddylfryd; neb allai ddarllen llinell o'i waith, ac felly dderbyn dim mwynhad oddiwrtho. Dyn a 'styrio! mewn ystyr lenyddol yr oedd yn unig.