A phan roddes i fynu ei gysylltiad â'r Eisteddfodau Cenedlaethol fel ymgeisydd, hawlid ei wasanaeth ynddynt fel Beirniad. Yr oedd ganddo bob cymhwysder i'r swydd. Adwaenai "nod angen cerdd " i fanyldeb; trwy ei ddarllenyddiaeth helaeth ar lenyddiaeth gyffredinol, deallai beth a ofynid gan y testyn; ac yr oedd ei ymlyniad cryf a dianmheuol bob amser wrth degwch a chyfiawnder yn peri na ofnai undyn cydnabyddus âg ef y byddai iddo byth wyro barn. Yn hyn yr oedd fel y mynai Cesar i'w wraig fod-uwchlaw anmheuaeth. Er Eisteddfod Birkenhead, yn 1877, credwn iddo o flwyddyn i flwyddyn eistedd ar y fainc farnol, ac y mae pob beirniadaeth o'r eiddo yn profi mor drwyadl a dilys y cyflawnai y gwaith. Ysgrifenai feirniadaethau. meithion weithiau ar wehilion y gystadleuaeth, ond y maent yn dra darllenadwy; gallai ef roddi dyddordeb hyd yn nod yn y math diflas hwn o gyfansoddiad, ac ireidd-der yn y sychdir llwm. Yn Nghaerdydd beirniadai gydag eraill ar y Fugeilgerdd, yr Englyn, a'r Diarhebion Cymreig; ac yn y tri İle rhydd ddeffiniad maith a manwl o'u teithi a'u hanhebgorion, nes y darllena'i feirniadaeth fel darn o ramant. Yn ei farn ar y bugeilgerddi, dywed am rai o'r ymgeiswyr " eu bod yn rhy gall i fod yn wirion, ac yn rhy wirion i fod yn gall." Sylwa, wrth son am yr englyn unigol:-"Y mae ei nod angen ef pan yn sefyll ar ei ben ei hun yn wahanol iawn i nod angen englyn cyffredin mewn awdl, neu mewn cyfres o englynion-fel y mae modrwyau neu ddolenau cadwen yn wahanol eu dosbarth a'u defnydd i fodrwyau priodas." Dyma hefyd fel y darnodai'r gair Diarhebion:
AM eu bod yn ebion [dywediadau] doethach a phwysicach na dywed. iadau cyffredin, gwthiwyd y blaenddodiad ar arnynt i fod yn arhebion, fel y mae Llywydd yr America yn cael ei alw yn Arlywydd, y dreth yn ardreth, cymhell yn argymhell, ac felly yn y blaen. Ar ol cadarnhau y gair unwaith gydag ar (sef yn arhebion), cadarn-