oddiwrth eu perthynasau. Yr oedd yn rhaid newid y greenbacks am aur cyn gadael y wlad, a cheisiwn wneyd y fargen oreu wrth gyfnewid. Y trydydd Banc y gelwais gofynodd gwr y banc,—"Ai yr ochr draw i'r llyn, neu yr ochr hon ydych yn byw?" Atebais ef mai yn Nghymru.
"Ai Cymro ydych?" ebai mewn Cymraeg eglur, er fy syndod, "Mae genyf finau hen fam dda yn Nghymru, yn ymyl Rhuthin," ebai. Enw y gwr oedd J. Puleston, Ysw., A.S., wedi hyny yn y deyrnas hon, ac ewythr Mr. Puleston Jones.
Pan yn flwydd oed, symudodd Mr. Puleston Jones i'r Bala. Pan yn flwydd a haner y cafodd y clefyd aeth a'i olygon ymaith. A diffoddodd ei olwg yn lân pan yn ddwy flwydd a haner. Dysgodd ddarllen gartref. Pan yn hogyn bychan aeth i'r Ysgol Frytanaidd, ac y mae yn para i ganmol y pupil teacher 15 oed oedd yn yr ysgol hono, am y tynerwch a'r cynorthwy a gafodd oddiar ei law. Gwnai bob peth, a rhoddai lawer o wobrau bychain iddo i'w anog yn mlaen. Mae y gwr bach hwnw yn wr mawr erbyn hyn, —Mr. Lewis D. Jones, sydd yn gweithio mor ddewr dros Goleg Bangor.
Pan yn ddeg oed, aeth i Ysgol Ramadegol y Bala, sef Ysgol Ty Tan y Domen, fel y gelwid hi, o dan yr athraw Mr. W. T. Phillips. Symudodd oddiyno i'r coleg, dan Dr. Lewis Edwards. Yr oedd bellach wedi cael gafael ar ben ffordd dysg, a llwyddodd yno i enill Ysgoloriaeth Wright, o £50. Aeth oddiyno i Goleg y Deillion, i Worcester, a bu yno am flwyddyn a haner. Aeth oddiyno am flwyddyn i Brifysgol Glasgow; ac yna yn 1884 i Goleg Baliol yn Rhydychen. Bu ei lwyddiant yno yn nodedig; a gradd- iodd yn 1888, mewn Hanesiaeth Ddiweddar, yn y dosbarth blaenaf.
Cafodd ei ddewis yn weinidog Eglwys Seisnig Princes Road, Bangor, Ebrill, 1889, a'r un flwyddyn yr ordeiniwyd ef. Bu yn weinidog yr eglwys hon am bum' mlynedd. Y mae wedi bod bellach er ys dros ddeng mlynedd yn weinidog Eglwys Dinorwig, mewn llafur llwyddianus, a bri mawr.
Mae yn bosibl, ar ei gychwyniad gyda gwaith y weinidogaeth, fod ei neillduolrwydd fel "pregethwr dall," wedi hyrwyddo ei boblogrwydd. Ond y mae ei deilyngdod personol, fel ysgolor dysglaer, ac fel pregethwr gwreiddiol a galluog, wedi enill iddo safle arbenig yn ffrynt gweinidogion ei Gyfundeb. Mae yn siampl nodedig o'r modd y medr ymroddiad cyson, a phenderfyniad diysgog—orchfygu os nid manteisio ar yr anhawsderau mwyaf.