Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LEWSYN YR HELIWR

I.—RHAGARWEINIAD

PAN nad oedd y ganrif ddiweddaf wedi treulio ond rhyw ugain mlynedd, a'r atgof am Boni a Waterloo yn ffres a byw yn y tir, dechreuodd pobl Cymru feddwl am rywbeth heblaw codi bechgyn i ryfela â'r Ffrancod. Bychan oedd yr hur mae'n wir, a drud pob nwydd, ond eto i gyd yr oedd yn y werin awydd am y pethau hynny a'u codai, yn eu tyb eu hunain, ac a roddai iddynt le uwch ym marn eu cymdogion. Trigai traddodiad am Ysgolion Gruffydd Jones a Madam Bevan mewn llawer cilfach, ac wele, o'r diwedd, rai ugeiniau o ysgolion yn cael eu hagor yma a thraw, a gwanc am addysg a'r gallu i ddarllen yn myned o fferm i fferm ac o fwthyn i fwthyn.

Digon diaddurn oedd yr ysgoldy bron yn wastad, oblegid ysgubor wâg neu gyntedd eglwys oedd y lleoedd mwyaf cyfleus, ac yno yr elai plant y wlad i glywed am gyfrinion yr A. B. C., a'r pethau mawr a ddilynai o'r gallu i'w gosod wrth ei gilydd i spelio.

Clywais gan fy mam lawer ystori a glywsai hithau gan fy hen famgu, am Ysgol Sgubor Gwern Pawl,—y digwyddiadau ysmala fu yno, a'r athrawon mwy ysmala fyth fu yn tywys plant Penderyn ar hyd llwybrau dyrys y "Reading made Easy" a'r "Spelling Book." Ond er y chwarddem lawer am ystranciau "y cau Allan" ac am ystrywiau yr athro anwybodus a fethai guddio ei ddiffygion ei hun rhag plant ei ofal, gwell gennyf fi oedd clywed hanes ei chyfoedion yn yr amser hwnnw, ac yn enwedig am Lewis Bodiced a Beti Hendrebolon,—ystori a godai wên i'n hwynebau mewn ambell bennod, ond a'n gadawai yn fynychach gyda chalonnau trist a llygaid lleithion.