Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Lewys Aran.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LEWYS ARAN.
Cymru Tachwedd 1918[1]

MAE llawer blwyddyn bellach er pan fu farw y cyfaill anwyl Lewys Aran. Yr oeddwn ers amser bellach wedi meddwl am anfon ysgrif ferr i'r CYMRU er cof am dano, ac er cadw ei enw mewn coffadwriaeth, oherwydd credwn, pe cawsai fyw yn hwy, y buasai wedi dringo i sylw yn y byd barddonol, fel ei ewythr, y diweddar Owen Aran.[2]

Ganwyd a magwyd Lewis Roberts yn Nolgellau. Enw ei rieni ydoedd Griffith ac Elizabeth Roberts. Yr oedd talent amlwg yn nheulu ei dad, oherwydd yr oedd y tad a brodyr ei dad yn nodedig o athrylithgar a medrus. Yr oeddynt oll yn nodedig iawn am dynnu darluniau, a gwnaeth ei ewyth Owen Aran sketch o hono ei hun yn y drych, sydd yn dal heb lychwino eto. Yr oeddynt yn fedrus fel cerfwyr.

Llanc ieuanc tal, a golwg gwelw arno ydoedd Lewys, gyda thalcen mawr chnwd o wallt du trwchus. Chwareuwn lawer âg ef, ac yr oedd yn un tirion a charedig a hynod o ffraeth. Yr oeddym ein dau yn yr un ysgol ddyddiol, sef yn yr Ysgol Genedlaethol, tu hwnt i'r Bont Fawr, o dan ofal yr hen athraw, Mr. R. O. Williams, ac y mae atgof melus o'r dyddiau hynny ac am blant yr amser hwnnw, yn dwyn hiraeth i'm mynwes, ond

"Mae rhai mewn bedd yn huno,
A'r lleill ar led y byd;
Nad oes un gloch a ddichon
Eu galw heddyw'n nghyd."

Yr oeddym ein dau wedi ein rhoddi i ddysgu argraffu, Lewis gyda W. Hughes, Ysw., U.H., yn swyddfa y Dysgedydd, a minnau gyda y diweddar Mr. D. H. Jones yn swyddfa y Goleuad, a'r adeg yma y ffurfiwyd rhyngom gyfeillgarwch tynn. Yr oedd ynddo duedd gref at ddarllen, a daeth yn ddarllenwr mawr, ac yn ysgrifenwr rhagorol, a gwelais ef lawer tro ar ol noswylio wrthi a'i ben mewn rhyw lyfr yn darllen wrth oleu y ganwyll.

Yr adeg hynny yr oedd yn byw yn ymyl y Cross Keys, ac yno yn y ty hwnnw y diweddodd ei yrfa.

Dylaswn ddweyd hefyd fod ei fam yn ysgolheiges dda; ac os wyf yn cofio yn iawn, clywais mai dod i Ddolgellau fel ysgolfeistres a wnaeth.

Cyfansoddodd Lewis lawer o benhill— ion ac englynion: ac ystyried ei oedran yr oedd yn gyfansoddwr da, a mynych yr ymddanghosodd rai o'i weithiau yn y Dydd, yr hwn oedd a'i gylchrediad yn rhai miloedd.

Ond cafodd fy nghyfaill anwyd trwm, a drodd yn angau iddo, ar ol misoedd o gystudd caled, yr hwn a ddioddefodd yn dawel a dirwgnach. Bu farw bron ar ddechreu ymagor, yn fachgen tyner, hynaws, ac yn llawn arabedd, yn ddwy ar bymtheg oed, fore Sabbath, Chwefror 10, 1879. Claddwyd yr hyn oedd farwol o hono ym mynwent eglwys Dolgellau.

Wele englyn o'i eiddo pan yn ei gystudd, ac yn un o'r rhai olaf a gyfansoddodd,—

Os i'r bedd yr eis o'r byd,—o'm gofid
Mi gefais fy symud;
Na wylwch, wyf anwylyd
'N nifyr fan y nefoedd fyd."

Naturiol iawn i un wedi bod o dan law cystudd yn drwm oedd dymuno am y nefoedd, fel y diwedda ei englyn, pha fardd na chanodd erioed i'w wlad; a dyma ddywed ef yn naturiol am "Wlad y Gân,"

"Gwlad cantorion gloewon glân—a mirain
Lle mawrwych a diddan,
A goleu gartref gwiwlan
O glod i gyd yw gwlad y gân."

Yn iach, bellach, fy mrawd, noswyliaist yn rhy gynnar o lawer; boed dy hun yn dawel, a sued yr awel yn dyner uwch dy orweddle, tra y murmur yr Wnion ei chân ar ei thaith i'r môr. Huna lliaws o'i gyfoedion yn ei ymyl, ac heb fod ymhell o'r fangre mae bedd Dafydd Ionawr, bardd "Cywydd y Daran" a'r "Drindod," gweithiau a ddarllenai Lewys Aran yn fynych. Ffarwel, frawd, hyd nes y cwrddwn eto mewn llawer gwell byd." Y mae brawd iddo eto yn fyw, sef Mr. Owen Aran Roberts, Decorator, Abermaw.

DolgellauR. JAMES (Trebor).

  1. Cymru (OME) Cyf 55, 1918, tudalen 176
  2. Y mae Llew Meirion, mewn rhifynnau cynt wedi adrodd hanes Owen Aran yn fanwl, a cheir gyda'r ysgrifau dyddorol hynny y darlun y cyfeirir ato yn yr ysgrif hon. Bydd erthyglau ar hen fywyd tref Dolgellau, fu mor llawn o gymeriadau tarawiadol, yng nghyfrol gynta'r flwyddyn nesaf.