Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trefn gyda hi yn gyffredinol Ffurfiwyd "Cynghor yr Eisteddfod," cynnwysedig o brif Eisteddfodwyr Cymru, a phennodwyd yr Archddiacon Griffiths, Castellnedd, yn llywydd, Alaw Goch yn drysorydd, a Chreuddynfab yn ysgrifenydd. Cynnaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ar ol hyny, dan nawdd a chymhorth y pwyllgor hwn, yn Dinbych, yn y flwyddyn 1860, a pharhaodd felly o'r naill fan i'r llall am naw mlynedd. Ond nid oedd pethau yn gweithio yn esmwyth: ychydig o'r naw Eisteddfod a fu yn llwyddiannus, a bu rhai ohonynt yn fethiant, yn enwedig y ddwy olaf—Caerfyrddin (1867) a Rhuthyn (1868). Yr oedd Cynghor yr Eisteddfod, erbyn hyn, mewn dyled drom, a galwyd ar brif hyrwyddwyr y symudiad i'w thalu. Bu hyn, i raddau helaeth, yn oerfelgarwch i'r syniad am Gynghor Cenedlaethol; ac, hyd yr ydym yn gwybod, yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynnaliwyd yn Nghaernarfon, 1877, yr ail—gyneuwyd y tân, ac ail—gychwynwyd y Cynghor gyda yr enw newydd "Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol," a da genym weled fod y Gymdeithas hon yn ennill tir y naill flwyddyn ar ol y llall, ac y mae bron pob Eisteddfod a gynnaliwyd, er y flwyddyn 1877, oddigerth un neu ddwy, wedi bod yn llwyddiant hollol. Ond, modd bynag, darfu i'r Cynghor a bennodwyd yn Eisteddfod Llangollen, 1858, gyda'r gwelliantau eraill a nodwyd, benderfynu cyhoeddi cylchgrawn chwarterol dan yr enw Yr Eisteddfod, a chychwynwyd ef yn benaf, os nad yn gwbl, er gwasanaethu y sefydliad cenedlaethol. Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan Ebrill, 1864. Golygid ef gan ysgrifenydd y Cynghor, sef Mr. W. Williams (Creuddynfab), Llandudno, a bernir fod dau neu dri rhifyn ohono wedi dyfod allan dan olygiaeth Rhydderch o Fôn. Argrephid af gan y Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam.