Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(a) The Miscellaneous Repository, neu "Drysorfa Gymysgedig," yr hon a gychwynwyd yn y flwyddyn 1795. Golygid y cylchgrawn hwn gan y Parch. Thomas Evans, gweinidog gyda'r Undodwyr yn Aberdâr. Chwe' cheiniog ydoedd ei bris, ond ni ddaeth allan ond tri rhifyn.

(b) Cylchgrawn Cymru. Cyhoeddiad chwarterol ydoedd hwn, a gychwynwyd oddeutu dechreu y flwyddyn 1814, gan y Parchn John Roberts, Tremeirchion, a J. Evans, Llanbadarnfawr, a hwy hefyd oeddynt yn ei olygu. Cyhoeddid ef yn Nghaerlleon, ond ni ddaeth ychwaneg o hono allan na phedwar neu bump rhifyn.

(c) Y Bryd a Sylwydd, sef "Cyfrwng o Wybodaeth Gyffredinol." Daeth y rhifyn cyntaf allan ar Ionawr 15fed, 1828, a'i bris ydoedd saith geiniog. Bernir mai ei brif gychwynydd ydoedd Mr. Joseph Davies, cyfreithiwr, Lerpwl, ac argrephid ef gan Mr. J. Evans, Caerfyrddin. Ceir fod y ddau rifyn cyntaf ohono yn Gymraeg oll, ac yn y trydydd rhifyn (am Mawrth 15fed, 1828), ceir amryw erthyglau Seisonig, ac ar ol hyny parhaodd yn ieithyddol-gymysg, a symudwyd ef i gael ei argraphu. Ceid llawer o wybodaeth gyffredinol ynddo, ond rhoddwyd ef i fyny yn fuan, a bu ei gychwynwr yn ei golled drwyddo.

(d) Y Freinlen Gymroaidd. Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1836, a chyhoeddid ef gan Mr. E. Williams, Aberystwyth, ond dros enyd fer y parhaodd.

(e) Yr Ymwelydd Cyfeillgar, neu, fel y gelwir ef weithiau, The Liverpool Friendly Visitor, a gychwynwyd yn 1880, gan y Parch. L. W. Lewis (B.), Lerpwl, ac a olygir hefyd ganddo ef. Er na chyhoeddir ef yn hollol gyson a difwlch o ran amser, eto ceir fod rhai ugeiniau o rifynau ohono wedi dyfod allan er ei gychwyniad. Cyhoeddiad lleol ydyw, a'i bris ydyw ceiniog, a'i brif amcan ydyw taenu gwybodaeth gref-