Tudalen:Llenyddiaeth y Cymry - llawlyfr i efrydwyr.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cystrawen yn hen. Eto y mae eu hiaith yn gyíoethog iawn, yn enwedig o dermau rhyfel a geiriau cyfansawdd grymus. Y mae rhagymadrodd Syr Edward Anwyl i'w gweithiau ["The Poetry of the Gogynfeirdd," Gee a'i Fab, 1909] yn gymorth gwerthfawr i'w hastudio. Yr un peth yw sylwedd eu mawl, fel rheol, ac arferant yr un termau canmoliaethus am y rhyfelwyr bron i gyd. Gwir fod effaith yr hen draddodiad yn gwanhau yn raddol, a'r arddull yn araf symleiddio, ond nid yn gymaint yn y cerddi rhyfel ag yn y marwnadau a'r cerddi dihewyd.

Ceir tair awdl o waith Meilyr yn y Myvyrian, Nid yw'r Awdl i Drahaearn ond dernyn, ar lun darogan neu broffwydoliaeth am ddiwedd Trahaearn. Cerdd dduwiol yw "Marwysgafn Feilyr Brydydd," y cawn ei chrybwyll eto. Y mae'r drydedd, Awdl Fawrnad Gruffudd ap Cynan, yn cynnwys 172 o linellau, ac yn fwy o gerdd ryfel nag o farwnad, fel, yn wir, y mae'r rhan fwyaf o farwnadau'r cyfnod. Ynddi, y mae Meilyr yn galw Gruffudd ap Cynan yn "flaidd byddin," "mur cadau," "gweinion waegawd, "Brenin brwydr efnys," "mur ced," "Eingl ddidudydd,'" ac enwau clodforus o'r fath wrth y dwsin; ac nid yw ei linellau yn fynych yn ddim amgen na rhes o'r termau hyn wedi eu gweu i'w gilydd. Nid edrydd ystori o gwbl am orchestion Gruffudd, ac ni wybuasem ond ychydig o hanes ei frwydrau oddiwrth gyfeiriadau'r bardd atynt. Ei ddull yw pentyrru'r geiriau canmol ar ei gilydd, enwi maes brwydr yma ac acw, crybwyll haelioni Gruffudd ato ef yn arbennig, a throi eilwaith a thrachefn at ei farwolaeth, ar ddiwedd pob pennill. Weithiau, cyfyd uwchlaw hyn, a rhydd i ni rywbeth amgenach na rheffyn cywrain o enwau moliannus heb nemor gysylltiad rhwng y naill â'r llall:—

"Pan fâi gyflüydd [brwydr] o wyr gwychawg,
Atgoryn [ymddygent], deyrnedd, yn weinyddawg,
Pob pump, po pedwar yn wâr, weinawg [fel gweision]
Gwylynt, golithrynt yn ogelawg [gwyliadwrus]
Rhag un mab Cynan, y cyndyniawg.'

(Gwylynt—gwylient; golithrynt—golithrent, fel yr ysgrifennem ni heddyw).

Ar ol y llun hwn, cawn res hir o enwau, Owain Gwynedd a'i feibion ac yna grybwylliad am frwydr Mynydd Carn, lle lladdwyd Trahaearn, mewn rhyw ddwy linell:—

"Amugai [amddiffynnai] dragon udd [arglwydd] Môn meinddydd
Men yd las [man y lladdwyd] Trahaearn yng Ngharn Fynydd."

Dyddorol yw cymharu'r cyfeiriad hwn â'r disgrifiad o'r frwydr hono a g ir ym Muchedd Gruffudd ap Cynan," a ysgrifennwyd mewn iaith rydd, yn Lladin, y mae'n debyg, ac a drowyd wedyn i'r Gymraeg:—

"Ac yna y bu frwydr ddirfawr i chof i'r etifedd wedi eu rhieni. Gewri [llefau] yr ymladdwyr a ddyrchafwyd i'r awyr; seiniaw a orug [a wnaeth] y ddaear gan dwrf y meirch a'r peddyd gwyr traed); y sain ymladdgar a glywid ymhell; cynnwrf yr arfau a seiniai yn fynych. Gwyr Gruffudd yn dwysaw [rhuthro ynghyd] yn wychr [dewr] ac eu gelynion yn darostwng uddunt. Chwys y llafur a'r gwaed yn gwneuthur ffrydiau rhedegawg. Ac yn hynny, Trahaearn a drychwyd [a glwyfwyd] yn i gymherfedd [ei ganol] oni ydoedd i'r llawr yn farw, yn pori â'i ddannedd y llysiau ir, ac yn palfalu ar warthaf yr arfau."

Ni ddaw'r bardd Meilyr yn agos at y rhyddieithwr di-enw a wnaeth y darn grymus yna, o ran llawnder. Eto, y mae gan Meilyr ar brydiau linellau a ddeil gymhariaeth â gwaith y rhyddieithwr, megis y rhai hyn, lle y mae'n disgrifio rhuthr Gruffudd drwy'r wlad:—

"Tyrfai rhag llafnau, pennau peithwydd [gwiail gwebydd]
Caith [caethion], cwynynt, cerddynt gan elfydd [hyd le gwyllt],
Cnöynt, frain, friw-gig o lid llawrydd [llaw-rydd?],
Llenwy[n]t du reawr [meirch?] i fawr feysydd;
Delid meirch amliw [brith] a biw elfydd [gwartheg gwylltion?)
Gwern Gwygyd, gwanai bawb yn i gilydd,
Gwaed gwyr, goferai, gŵyrai onwydd [coed ynn]"

Tebyg eto yw canu Gwalchmai i Owain Gwynedd a'i feibion. Y mae