Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deilchion oddi ar ei wefus? Na, gwell fyddai marw nag ymwahanu bellach. "Dialedd sydd eiddof i," medd nwyd; "eiddof innau yw Llio eurwallt," ebr y galon. Na, meddyliai Bonnard, wedi codi mor uchel i'r nefoedd, ni allaf ddyfod yn ôl eto i'r ddaear; fy mywyd a'm bendith, ni'th adawaf byth.

Wrth iddo syllu, dylanwadodd arni, a pheri i'w chwsg anesmwytho. Chwyddodd ei mynwes, a daeth ei hanadl yn ôl yn hanner ochenaid. Agorodd ei llygaid, ac edrychodd arno.

Rown i'n breuddwydio," ebr hi, "am le a welais unwaith, ond nid mewn breuddwyd. Ond dyna fo'n mynd eto; ond hitiwch befo, mi gofia i eto ryw ddiwrnod."

Edrychai'n syn a dychrynedig, fel pedfai'r hunllef eto heb lwyr adael ei hysbryd. Er hynny, nid oedd dim yn glir yn ei meddwl, ac ni allai gofio'r peth a fynnai ddweud wrtho.

Daw, fe ddaw'n ôl, 'y nghariad fach-i. Llio, wrth sôn am ych tad heddiw, roeddech-chi'n i alw o'n Ryder Crutch?"

Daeth trem ddryslyd i'w llygaid.

"Does gen i'r un tad," ebr hi yn arafaidd.

"Dydech-chi ddim yn cofio ichi ddeud mai'r dyn sy'n byw yma-y dyn y mae arnoch-chi gymaint o'i ofn-o, ydi'ch tad?"

Ie, ie, 'nhad! O, nage, Ivor, rydw i wedi ang- hofio. Does gen i'r un tad. Mae-o wedi marw ers yn hir yn ôl, pan oeddwn i'n eneth bach."

Llio, ydech-chi'n siŵr o hyn? Ellwch-chi gofio ych enw arall?