Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O! Ivor!" Cuddiodd Llio ei hwyneb, a phlygu me newn arswyd tua'r llawr. "Y peth welais-i yng ngwaelod y bedd oedd skeleton—esgyrn dynol, heb fymryn o gnawd arnyn-nhw."

Disgynnodd yr eneth ar ei gliniau ar lawr, a pharai'r atgof am y foment ofnadwy honno iddi ysgwyd fel cangen wan dan bwysau awel Hydref. Sefyll a wnâi Ivor yn llonydd, wedi ei droi'n sydyn yn ddelw garreg. Am ysbaid byr bu distawrwydd; yna ysgubodd teimlad llethol dros Ivor Bonnard, gan ei ysgwyd a'i orchfygu. Disgynnodd yntau ar ei liniau, a phlygodd ei ben tua'r llawr, a'i ddwylaw'n cuddio'i wyneb. Rhuthrodd ei lais llwythog allan, fel petai'n dyfod o ddyfnder ei galon.

"O, mam, mam, mam," eb ef.

Cododd Llio ar ei thraed, ac yn ei syndod uwchben ei eiriau gwasgodd freichiau'r gadair gerllaw. Ceisiodd siarad, ond gwrthodai ei thafod barablu. Ni allai namyn edrych arno, a syndod a chydymdeimlad a chariad yn gymysg yn llenwi ei llygaid â thynerwch anhraethadwy.

Griddfanai yntau gan ing ei enaid; ac ymddangosai fel petai wedi anghofio popeth amdani. Gwynion fel eiddo'r marw oedd ei wefusau, a'i lygaid fel petaent wedi suddo'n ddwfn i'w ben, ond er hynny'n fflamio'n danbaid.

"Ivor," murmurai Llio yn dyner, fel y medr merch serchog furmur, "deudwch wrtha-i, ai hon oedd ych mam?

Trodd yntau ei wyneb gwelw ati, a chododd ar ei draed.