Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

14

BEDD EI FAM

YN yr ystafell druenus, ddigysur, lle safai'r cwpwrdd mawr derw, hen ffasiwn, yn y gongl, yr eisteddai'r adyn a geisiai Ivor Bonnard. Yr oedd golwg eithaf erchyll arno; ar y bwrdd yr oedd amryw boteli gwirod, a hanner gwydraid o'i flaen. Amlwg oddi wrth un olwg arno oedd ei fod dan ddylanwad y gwirod; yr oedd ei lygaid llwydion, dilewych, wedi llonyddu yn ei ben, a'i gorff swrth wedi crymu nes edrych ohono fel tocyn aflerw o hen ddillad, a phen dynol hagr wedi ei osod arnynt. Yn ei syrthni meddw, ni chlybu sŵn troed Ivor yn dynesu at yr ystafell; y peth cyntaf i dynnu ei sylw oedd trwst y drws yn agor yn ddiseremoni a dirybudd. Cododd ei ben yn sydyn, a throdd at y drws; ac yno gwelodd Bonnard yn sefyll ar y trothwy.

Estynnodd Ryder Crutch ei ddwylaw fel dwy grafanc allan; gafaelodd yn dynn yn y bwrdd, a chododd ar ei draed.

"Pwy ydech chi?" eb ef mewn llais cras, "a pheth sy arnoch i eisio?"

"Myfi yw mab Georgette Prys," atebodd yntau'n ffyrnig, y geiriau'n ymsaethu allan rhwng ei ddannedd; a chyda hynny, camodd i ganol yr ystafell.

Yn aml, gall ergyd sydyn, gorfforol neu feddyliol, wneud dyn meddw yn sobr mewn moment. Ac felly y bu gyda Ryder Crutch; fel y disgynnai geiriau Bonnard