Llio yr un gair wrtho nes iddo ddyfod ato ei hun ychydig, a llwyddo i ymysgwyd oddi wrth y llewyg a'i bygythiai. Pa hyd yr eisteddasant yn ddistaw felly, ci fraich amdani hi, a'i phen euraid hithau ar ei liniau ef, nid hawdd oedd iddynt wybod. Hwy yw munud lawn nag awr wag, a llawn iawn oedd eu munudau hwy yn awr. Un teimlad oedd ym mynwes Llio—gwyddai ei bod yn caru'r dyn hwn, a bod arno yntau, yn ei gyni dwfn, fawr angen amdani. Newidiasai popeth erbyn hyn. Gynt, hi a oedd yn pwyso arno ef, a'i nerth gwrol yntau yn ei chynnal; ond heddiw, ef a oedd yn wan a hithau'n gref; hi a oedd yn cynnal, ac yntau'n pwyso ar ei chydymdeimlad tyner; hi a oedd heddiw'n tawelu ac yn cysuro.
Yng nglyn cysgod angau y gwêl dyn ogoniant disgleiriaf merch. Yn nyddiau tywyll a duon einioes, daw adegau pan na cheir dim cysur hafal i bresenoldeb tyner, tawel, merch bur a llednais. Hwyrach mai wedi'r cwymp y medrodd Adda deimlo gwerth a swyn presenoldeb a ffyddlondeb yr hon a'i harweiniasai i wybod da a drwg, a bod megis duw. Unwaith y cawsai ddial ar lofrudd ei fam, ni freuddwydiasai Ivor y medrai bywyd estyn chwaneg iddo ef. Meddyliasai, pe cawsai unwaith drochi ei fysedd yn y gwaed a gasâi, y byddai wedi darfod â phopeth ar y ddaear. Ond gofalodd yr Un o welsai gynt nad da bod dyn ei hun am anfon iddo yntau ymgeledd gymwys yn nydd ei ing. Yng ngolau swynol cymdeithas Llio, gwelodd Ivor bosibilrwydd newydd mewn bywyd, a heulwen ar lwybrau niwlog a diobaith y dyfodol.