Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd Llio yr ychydig bethau a oedd yn werthfawr yn ei golwg, a gwnaeth Ivor hwy'n faich bychan destlus. Goleuodd ei lusern; ac wedi diffodd y lamp, cychwynnodd y ddau ar hyd y fynedfa, ac i lawr yr hen risiau bregus nes dyfod at y porth cyfyng yng nghefn y tŷ. Agorodd Ivor y drws, a cherddodd y ddau allan i'r ardd. Wedi iddo gloi'r drws yn ofalus, troesant eu cefnau am byth ar Blas y Nos.