Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyw, ac a awgrymai dristwch anhraethadwy ar fyned heibio o flaen gwawr ardderchocach nag a welodd ein daear ni erioed. Gobaith y wawr oedd cyweirnod hwn.

Ymhen pum mlynedd neu chwech ar ôl y darlun mawr cyntaf, synnwyd y byd eilwaith gan ddarlun arall. O'i gongl eithaf ar draws y cynfas ymestynnai ffordd ffordd arw, anial, dros fryniau a thrwy nentydd a chorsydd. Ar ei therfyn, yng ngwaelod y llen, yr oedd bedd agored, ac ar ei lan hen ŵr, a baich y blynyddoedd, a lludded y daith, yn drwm ar ei ysgwyddau musgrell. Yr oedd ei droed ar lan y bedd, a rhyw chwilfrydedd dieithr, prudd ac anesboniadwy ar ei wyneb tenau ac yn ei lygaid trist, fel yr edrychai i lawr i'r bedd. Wrth syllu ar yr wyneb gellid gweled cyn hir hefyd ei fod yn debyg i wyneb yr arlunydd. Barnai pawb hwn y darlun gorau yn y byd o Anobaith. Ond sut y medrodd Gwynn Morgan ei beintio?

Yn ei ddarluniau eraill ceid wyneb merch ieuanc, osgeiddig, hardd. Yr unig ferch yng nghylch ei gyfeillion oedd Llio Prys. Yr oedd hi megis chwaer annwyl ganddo. Gwyddai fod drain yn ei fynwes, a cheisiai esmwytho gobennydd bywyd iddo, heb ei glwyfo'n waeth â chwilfrydedd aflednais. Ond nid wyneb Llio, er ei hardded, oedd yn ei ddarluniau anfarwol ef; wyneb pwy? Dyna oedd dirgelwch Gwynn Morgan. A phan agorwyd dorau priddellau'r dyffryn i'w dderbyn cyn ei fod yn ddeugain oed, diflannodd, a chadwodd ei galon ei gyfrinach.