rhwng y mynyddoedd; mae-hi'n ffordd go lew i'w cherdded hefyd, ac yn ffordd drol symol, syr."
"Wyddoch-chi am rywbeth diddorol, a gwerth i weld, ar y ffordd i Feddgelert?"
"Wel, mae yna fryniau a mynyddoedd, afonydd a llynnau, ar hyd y ffordd; wrth gwrs, rydech-chi'n pasio troed y Wyddfa, a phetaech-chi'n edrych o ben y Wyddfa mi welech y wlad odanoch-chi yn frith o lynnau. Wn-i ddim fyddwch-chi'n hitio rhywbeth mewn barddoniaeth. Mi fydda i'n meddwl bod yr hen Gwilym Cowlyd yn i tharo-hi'n dda odiaeth yn yr englyn hwnnw i lynnau'r Wyddfa."
"Sut mae-o'n mynd, deudwch?" gofynnodd Morgan.
"Wel, dyma fo, os nad ydw i wedi i anghofio:
Y llynnau mawrion llonydd—a gysgant
Mewn gwasgawd o fynydd;
A thyn heulwen ysblennydd
Ar len y dŵr lun y dydd.
"Go lew, yr hen Gowlyd, on'te, syr?"
"Ardderchog," atebodd Morgan, â gwên pleser ar ei wyneb. " Rhaid imi gael yr englyn yna yn fy llyfr, Mr Edwards."
Allan â'r "llyfr" ar y gair; ac adroddodd Mr Edwards yr englyn fesul llinell, a Gwynn Morgan yn ysgrifennu. Fel llawer o fechgyn cyfoethog ei oes yng Nghymru, gwyddai'r bonheddwr ieuanc hwn fwy am lenyddiaeth pob gwlad bron nag am un ei wlad ei hun. Ond nid ar y bechgyn yr oedd y bai, eithr ar y gyfundrefn addysg a wnaeth y Gymraeg yn iaith waharddedig ac ysgymun yn yr ysgolion.