o'r gwledydd tramor; mi glywais mai o Ffrainc yr oedd-hi, a'i bod-hi'n eneth ieuanc dlws anghyffredin, ond welais-i moni-hi fy hun. Mi roedd ganddyn-nhw fachgen bach dwyflwydd ond; mi welais-i hwnnw yn y pentre hefo'i nyrs, ond Ffrancreg oedd honno, a ches-i ddim sgwrs hefo-hi. Roedd llawer iawn o siarad amdanyn-nhw, ond doedd neb yn gwybod fawr i sicrwydd. Dyn canol oed, â golwg drist a phruddglwyfus dros ben arno, oedd Mr Lucas Prys, ag mi roedd-o'n Gymro, ag yn medru siarad Cymraeg â thipyn o lediaith, fel petasai-fo wedi'i fagu yn Lloegr, neu rywle felly. Mi fûm-i'n siarad hefo-fo ar y ffordd am funud neu ddau unwaith, ond ches-i fawr gyno-fo; roedd-o'n brysur eisiau 'ngadael-i. Roedd golwg dyn wedi torri'i galon arno-fo rywsut. Mi roedden-nhw'n deud bod ganddo-fo ddigon o arian, ond dwn-i ddim pam y doth-o i fyw i le fel Plas y Nos."
"Rhyfedd iawn, rhyfedd iawn," meddai Morgan. Eistedd yn ddistaw a breuddwydiol a wnâi Bonnard, fel pe na bai wedi sylwi dim ar stori gŵr y tŷ.
"Dowch, taniwch sigâr arall," ebr Morgan wrth ei westywr, ac estyn y llestr a'u daliai ato.
"Na, diolch ichi, syr," meddai hwnnw, "mae'n well gen i bibell, gyda'ch cenad. Mi fydda i'n licio sigâr yrŵan ag yn y man, ond mae pibell yn well i fyw arni." Yna dechreuodd lenwi ei bibell yn hamddenol a gofalus, ac wedi ci thanio, sugnodd y mwg yn ddistaw am funud neu ddau; edrychai fel pe bai'n sugno i gof yr un pryd, er mwyn galw pob ffaith ymlaen yn glir, rhag gwneud cam â'r hanes. Wedi ysmygu ennyd,