"Ivor," ebr Gwynn cyn hir, "mi wyddech am y lle yma cyn dwad i Gymru."
"Gwyddwn."
Ceisiodd Gwynn dremio drwy Bonnard, a darllen y dirgelwch; ond parhâi llygaid duon hwnnw i syllu arno yntau yr un fath, heb newid dim.
Rydw-i mewn mwy o dywyllwch nag erioed. Nid yn hymddiddan-ni neithiwr â'r hen Edwards sy wedi'ch arwain-chi yma felly?"
Nage; mi fuaswn-i'n dwad yma 'run fath yn union —ond mi fuaswn yn dwad yma fy hun, dyna'r cwbwl."
"A dydw-i ddim i gael gwybod mwy na hyn, Bonnard?
"Allai-i ddim deud chwaneg wrthoch-chi ar hyn o bryd. Wnewch-chi fy nghoelio-i pan ddyweda-i nad ydw-i ddim yn gofyn ichi wneud dim, ond be fuasech-chi'n i wneud ar unwaith petasech-chi'n gwybod popeth? Petasech-chi'n cael gwybod y cwbwl, fuasech-chi ddim yn meddwl llai ohono-i. Gadwch imi fynd i mewn i'r tŷ yna fy hun. Does arna-i ddim ofn y marw"; a chan daro ei law ar ei ochr, "ag mae gen-i arfau rhag y byw."
"Felly, rydech-chi'n disgwyl gweld rhywun yno?"
"Yn wir, wn-i ddim yn iawn be i'w ddisgwyl, ond mi fuasai'n dda iawn gen i petaech-chi'n bodloni i beidio â holi chwaneg."
Nid oedd Gwynn Morgan yn siwr nad breuddwydio yr oedd. Pa gysylltiad a allai fod rhwng y tramorwr hwn, a dreuliasai ei holl oes ar y Cyfandir, a hen annedd-dy anghyfannedd ac adfeiliedig yng Ngogledd