y dwrn. Yna safodd. Beth oedd tu draw iddo? A welai rywun yno? Trôi ei lusern eto i edrych o'i ôl, gan hanner disgwyl gweled wyneb gwelw angheuol wrth ei benelin, ond nid oedd yno ddim. Rhoes dro ar y dwrn, a synnodd ei fod mor rhydd. Agorodd y drws. Teimlai wallt ei ben yn codi'n syth i'w union sefyll. Yr oedd goleuni yn yr ystafell—goleuni! Safodd yn berffaith lonydd, a churai ei galon yn wyllt yn erbyn ei ochr. Pe syrthiasai'r nefoedd y funud honno, prin y gallasai ef symud na llaw na throed.
Paham y teimla rhai pobl hi mor anodd ganddynt fynd i mewn i ystafell lle bydd cannwyll yn llosgi, heb neb yn bresennol yno? Yr hen arfer o gadw cannwyll yn olau gyda'r marw, y mae'n debyg, sydd wrth wraidd yr ofn annelwig hwn a geir mor aml ymhlith dynion. Ond, os arswydir rhag ystafell felly mewn tŷ cyffredin, pa faint mwy'r arswyd wrth fyned i ystafell mewn tŷ a fu am dros ugain mlynedd heb drigiannydd, a gweled yno gannwyll yn llosgi? Am eiliad, safodd Bonnard yn hollol lonydd; y funud nesaf, gwibiodd yr atgof am y drws, a'r olion ar y clo, drwy ei feddwl, a sylweddolodd mai ystyr y golau oedd bod yno ddyn o ryw fath yn byw. Wedyn, cerddodd yn ddistaw a hy i'r ystafell.
Safai lamp ar astell y simnai, ond nid oedd neb yn yr ystafell, a chafodd Bonnard felly hamdden i fwrw golwg o'i gylch. Nid oedd yno fawr i'w weled. Ystafell ysgwâr, a'i nenfwd yn isel, y ffenestr yn uchel yn y mur, a chaead arni, bwrdd â dau neu dri o lyfrau arno, ychydig gadeiriau derw hen ffasiwn â chefnau uchel, darnau carped ar y llawr derw wedi hen wisgo eu