nhw? Ydech-chi'n i nabod-nhw? Does arna-i ddim o'i hofn-nhw. O, maen-nhw'n gwybod llawer—maen-nhw'n gwybod pob peth. Mi wyddan nhw pam rydw i o'ngho; rydw i wedi anghofio!"
Llawn o deimlad gwyllt, toredig oedd ei llais, ac ynddo ryw dristwch mawr, pell, ac annirnadwy, yn hofran ar ymylon tywyll ei chof, ond heb ddyfod i'r goleuni, am fyned o'r goleuni'n dywyllwch.
"Ngeneth bach druan-i," crynai ei lais fel y llefarai. "Dydech-chi ddim yn y lle ofnadwy yma ych hunan?" Fy hunan? O, nag-ydw. Mae o yma, 'y nhad, ond nid yn amal y bydda-i'n i weld-o." Rhedodd ias o gryndod trosti, a dywedodd, a'i dwylaw'n dynn am ei llygaid:
"Pan fydda-i'n i weld-o, mi fydda-i'n cofio nad oeddwn-i ddim o 'ngho bob amser. Do, mi ddigwydd- odd rhywbeth-rhywbeth-O!" ymwasgodd yn dynn at Bonnard, crynodd i gyd trosti, a murmurodd yn ddistaw:
"Peidiwch â holi am hynny... O! mae-o'n ofnadwy!"
Teimlai ef y ias gryndod a redai drwyddi, a rhyfeddai pa faint o dristwch a allasai fod wedi ei brofi; pa fath olygfa a'i dychrynasai nes drysu ei meddwl? A phaham ar y ddaear yr oedd yn byw yn y fath encilfa anfad, mor llwm ac anghysurus â charchar?
Tynnodd ei law yn dyner dros fodrwyau hirion tresi euraid ei gwallt. Yn ddiddadl, dyfnhau a wnâi'r dirgelwch. Ei thad? Felly, amhosibl mai dyhiryn iselradd oedd trigiannydd Plas y Nos. Amlwg oedd fod gwaed bonheddig yng ngwythiennau'r eneth hon, ac iddi gael