Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

freichiau am ysbaid mewn distawrwydd, gollyngodd hi a throi tua'r drws. Ond, cyn ei gau ar ei ôl, ni allai lai nag aros am foment i syllu ar y ddau lygad agored tlws a dwfn a edrychai'n gariadus a hiraethus ar ei ôl. Gwenodd arni, a chaeodd y drws. Yr oedd yn yr hen fynedfa anolygus unwaith eto, ac yn yr ystafell y daethai iddi o'r ffenestr. Mewn munud arall, safai ar y glaswellt tal y tu allan, a'i lygaid yn hoeliedig ar furiau Plas y Nos. Tynnodd ei law ar draws ei dalcen, a dywedodd rhwng ei ddannedd:

"Mae yn y fan yma ryw ddirgelwch dieithr ofn- adwy; ond trwy help Duw mi fynna-i weld i waelod-o."